America yn ochri gyda Rwsia yn y Cenhedloedd Unedig dros Wcráin
Mae’r Unol Daleithiau wedi ochri â Rwsia ddwywaith mewn pleidleisiau yn y Cenhedloedd Unedig ar Wcráin.
Daw wrth i wledydd nodi tair blynedd ers ymosodiad Rwsia ar Wcráin.
Mae’r penderfyniad wedi tynnu sylw at newid safiad gweinyddiaeth Donald Trump ar y rhyfel yn Wcráin.
Yn gyntaf, roedd yr UDA a Rwsia yn gwrthwynebu penderfyniad a ddrafftiwyd gan Ewrop yn condemnio gweithredoedd Moscow ac yn cefnogi hawl tiriogaethol Wcráin, a basiwyd gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UNGA) yn Efrog Newydd.
Yna fe wnaeth y ddwy wlad gefnogi penderfyniad a ddrafftiwyd gan yr Unol Daleithiau yng Nghyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn galw am ddod â’r gwrthdaro i ben ond nad oedd yn cynnwys unrhyw feirniadaeth o Rwsia.
Cafodd penderfyniad y Cyngor Diogelwch ei basio ond ataliodd dau o gynghreiriad allweddol yr Unol Daleithiau, y DU a Ffrainc, y bleidlais ar ôl i’w hymdrechion i ddiwygio’r geiriad gael eu gwrthod gan feto.
Cyflwynwyd y penderfyniadau wrth i Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, ymweld â’r Arlywydd Trump yn y Tŷ Gwyn mewn ymgais i fynd i’r afael â’u gwahaniaethau dros y rhyfel.
Ddydd Iau mae disgwyl i Brif Weinidog Prydain, Syr Keir Starmer, hefyd ymweld ag arweinydd newydd America.
Mae Tŷ Gwyn Trump, wrth geisio nesáu at Rwsia, wedi bwrw amheuaeth ar ymrwymiad hirdymor America i ddiogelwch Ewropeaidd.