Llyfrau sain neu galed? Mwy o blant yn gwrando ar lyfrau nag yn eu darllen
Mae nifer y bobl ifanc sy’n dweud eu bod yn mwynhau gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau yn eu hamser rhydd wedi codi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ymchwil newydd.
Dywedodd mwy na dau o bob pump (42.3%) o blant a phobl ifanc rhwng wyth a 18 oed eu bod yn mwynhau gwrando ar lyfrau yn eu hamser rhydd yn 2024, o gymharu â 39.4% yn 2023, mewn ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol (NLT).
Mae hyn yn dilyn rhybudd gan elusen NLT ym mis Tachwedd, bod nifer y plant sy’n darllen llyfr yn “argyfwng”, wrth i’r nifer o blant sy’n mwynhau darllen yn eu hamser rhydd ddisgyn i tua un o bob tri (34.6%).
Dyma’r tro cyntaf i’r ymchwil gan NLT ddangos bod yn well gan blant wrando ar lyfrau sain yn hytrach na darllen llyfr.
Symud ymlaen
Yn ôl Natalie Jones, awdures y llyfr 20 o Bobl Liwgar Cymru, dydy’r ffigyrau ddim yn ei synnu.
Dywedodd bod angen i ni “symud ymlaen” efo’r dulliau o gyflwyno llyfrau i blant gan fod bywyd bob dydd yn newid.
“Mae gymaint o athrawon yn gadael i’r plant ddefnyddio ipads yn y dosbarth a defnyddio sgriniau - mae hynny’n rhywbeth fysa neb wedi meddwl amdano fo 40 mlynedd yn ôl…creu gwers o gwmpas cyfrifiadur!”
“Felly mae pethau angen symud ymlaen efo’r dechnoleg newydd” meddai.
Mae'r elusen wedi awgrymu y gallai gwrando ar lyfrau sain a phodlediadau fod yn ffordd wahanol o gael mwynhad drwy lyfrau i lawer o blant a phobl ifanc.
Roedd bron i ddau o bob pump (37.5%) o blant a phobl ifanc yn cytuno bod gwrando ar lyfr sain wedi ennyn eu diddordeb mewn darllen llyfrau yn 2024, yn ôl yr arolwg.
Dangosodd yr ymchwil hefyd bod eu creadigrwydd, eu lles a’u dysgu’n elwa o wrando ar lyfrau sain a phodlediadau.
Mwy nag un rheswm
Un o’r pethau yr oedd Natalie yn awyddus i’w wneud wrth gydweithio â Lolfa i greu’r llyfr, oedd sicrhau ei fod yn lyfr “oedd yn fwy na dim ond i’w gael ei ddarllen”.
“Roeddwn i eisiau iddo fod yn interactive, ac yn rhoi mwy nag un rheswm i blant agor y llyfr” meddai.
“Dwi’n deall ei fod o’n anodd weithiau i gael plant a phobl ifanc i fod eisiau darllen, ac felly dyna pam bod y llyfr neshi ei ysgrifennu yn lyfr eithaf interactive efo QR code, sy’n dweud mwy am y bobl yn y llyfr, ac mae ‘na gemau a phethau i’w lliwio yn y cefn”.
Dywedodd prif weithredwr NLT, Jonathan Douglas, “Mae cymaint o deuluoedd, ysgolion, llyfrgelloedd, elusennau, cyhoeddwyr, busnesau a mwy eisoes yn ysbrydoli plant i ddarllen mewn ffyrdd mor amrywiol ac arloesol.”
Dywedodd Julie McCulloch, cyfarwyddwr strategaeth a pholisi Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL): “Gall llyfrau llafar a phodlediadau fod yn arbennig o ddefnyddiol i ddarllenwyr anfoddog, ac rydym yn croesawu’r adnoddau a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Cenedlaethol.”
Lle i'r ddau
“Mae ‘na le i’r ddau ar y funud” meddai Natalie wrth gyfeirio at lyfrau caled a llyfrau sain.
“Dwi’m yn poeni bod llyfrau yn mynd i fynd allan o ffashwn o gwbl, a mi faswn i’n hoffi gweld mwy o blant yn darllen efo llyfr i’w hannog nhw i gael y mwynhad yn ôl” meddai.
“Ond, mae’n rhaid i ni sylweddoli bod ‘na’m byd yn aros yr un peth am byth”.
Ychwanegodd Natalie ei bod hi’n bersonol yn mwynhau darllen llyfr caled.
“Dwi’n hoffi llyfrau a theimlo llyfr yn fy nwylo, felly dwi’n gwybod yn fy mywyd i, fyddai wastad eisiau prynu llyfr” meddai.
“Dwi newydd brynu pum llyfr newydd i’r plant yn fy nheulu iddyn nhw gael un yr un, a dwi’n mwynhau darllen straeon iddyn nhw.”
Dywedodd ei bod yn credu y bydd “wastad yn bwysig i blant ddysgu i ddarllen, ond sut beth fydd y fformat yn y dyfodol, dwi’m yn gwybod”.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Addysg: “Mae darllen er pleser yn hynod bwysig, gyda chysylltiadau cryf â chyrhaeddiad, lles a datblygiad gwell i bobl ifanc.”
“Mae athrawon eisoes yn cael eu hannog i gefnogi eu disgyblion i wrando, trafod a darllen ystod eang o straeon, cerddi dramâu a llyfrau, a gall hyn gynnwys defnyddio llyfrau sain.”
Yn ôl Natalie, mae athrawon yn aml yn darllen llyfrau o flaen y dosbarth, ac nid yn “rhoi’r llyfr o flaen y plant ac yna’n eu gadael nhw”.
“Mae’r athrawon yn adrodd straeon, yn darllen straeon ac yn defnyddio platfformau gwahanol fel ipads i’w helpu nhw i greu straeon hefyd” meddai.
“Hefyd,” meddai, “mae pobl angen sylweddoli bod anghenion y plant yn wahanol”.
Os oes gan blentyn ddyslecsia, “dydy hi’m yn deg gorfodi’r plentyn hwnnw fwynhau darllen llyfr lle mae’r geiriau yn anodd iddyn nhw eu deall oherwydd y print, neu liw’r print, neu faint y print.”
“Wrth gwrs mi fydd plentyn fel yna eisiau troi at audiobook yn lle eistedd efo llyfr sy’n anodd ei ddarllen.” meddai.