Brechlynnau’r Tafod Glas wedi eu caniatáu yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i drwyddedu tri brechlyn y Tafod Glas i gael eu defnyddio mewn argyfyngau ledled Cymru.
Daw’r penderfyniad ar ôl i gynrychiolwyr o’r diwydiant ffermio wneud cais i bob un o’r tri brechlyn gael eu trwyddedu yng Nghymru.
Mae'r Tafod Glas (BTV-3) yn glefyd heintus sy’n effeithio ar wartheg, defaid, ceirw a geifr yn ogystal â lamas ac alpacas.
Mae'n cael ei ledaenu gan wybed mân (midges).
Cafodd achosion o'r haint eu darganfod yn Lloegr fis Awst y llynedd, ond hyd yma nid oes achos wedi'i gofnodi yng Nghymru.
Bydd trwydded gyffredinol ar-lein ar gyfer defnyddio’r brechlyn ar gael o 1 Mawrth ymlaen.
Bydd y brechlynnau eu hunain ar gael ar bresgripsiwn, ac yn cael eu gwerthu o filfeddygfeydd.
Gallent gael eu rhoi gan ffermwyr eu hunain.
'Pwysig bod yn barod'
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine, bod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd bod eu hasesiad risg wedi dangos bod Cymru mewn perygl uchel o brofi achosion y Tafod Glas eleni.
“Ein prif nod yw cadw’r Tafod Glas allan o Gymru drwy fioddiogelwch, gwyliadwriaeth a chyrchu da byw yn ddiogel.” meddai.
“Mae Cymru'n parhau i fod yn rhydd o BTV-3, ond mae'n bwysig bod yn barod. Mae brechlynnau'n ddull pwysig i ffermwyr Cymru leihau effaith y clefyd hwn yn eu buchesi.”
Ychwanegodd ei fod yn annog ffermwyr sy’n ystyried brechu i ymgynghori â’u milfeddyg “i drafod a yw brechu yn briodol i’w da byw” meddai.
Dywedodd Elin Jenkins, Swyddog Polisi Undeb Amaethwyr Cymru, bod y Tafod Glas yn “parhau i fod yn fygythiad sylweddol i’n diwydiant”.
“Mae Undeb Amaethwyr Cymru eisoes wedi argymell cyflwyno brechlyn fel cam paratoadol pwysig wrth fynd i’r afael â’r sefyllfa, ac rydym felly yn croesawu’r cyhoeddiad heddiw.” meddai.
Er nad yw’r brechlyn hwn yn ddatrysiad terfynol, gall chwarae “rôl bwysig wrth gyfyngu ar effaith BTV-3 ar fuchesi a phreiddiau Cymru.”
“Rydym yn annog ffermwyr Cymru i ymgyfarwyddo â chanllawiau brechu Llywodraeth Cymru a pharhau i fod yn wyliadwrus yn ogystal â chymryd mesurau rhagweithiol i liniaru effaith a lledaeniad y clefyd hwn."