Newyddion S4C

'Difrod wedi ei wneud': Rhagor o weithredu diwydiannol gan Opera Cenedlaethol Cymru

Opera Cenedlaethol Cymru

Mae corws Opera Cenedlaethol Cymru wedi pleidleisio i gynnal protestiadau pellach yn ystod perfformiadau ddiwedd y mis a dechrau’r mis nesa’.

Fe fydd y corws yn gwisgo crysau-t #AchubOCC, yn dosbarthu taflenni ac yn trafod gydag aelodau’r gynulleidfa ynglŷn â pham eu bod nhw’n gweithredu yn ddiwydiannol.

Fe fydd hyn yn digwydd yn ystod perfformiadau ddydd Iau 27 Chwefror a 1 Mawrth.

Dywedodd undeb perfformwyr Equity y bydd hyn yn digwydd wrth iddyn nhw gynnal trafodaethau gyda rheolwyr WNO ynghylch torri maint, tâl a chytundebau'r corws.

Fe fydd y perfformwyr yn cynnal pleidlais arall ar barhau i weithredu yn ddiwydiannol tu hwnt i’r cyfnod presennol.

Ddydd Iau'r wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru £4.4m ychwanegol ar gyfer cyllideb celfyddydau a diwylliant Cymru ar gyfer 2025-26.

Dywedodd y Llywodraeth fod y buddsoddiad yn "gam sylweddol ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd."

Ond yn ôl y swyddog Equity yng Nghymru, Simon Curtis, mae'r “difrod wedi ei wneud”.

“Dyw adfer y gwariant i lefelau ariannu 23/24 yn ddim mwy na phlastr dros y briw blaenorol,” meddai.

“Er gwaethaf y cyhoeddiad hwn, mae Cymru’n cynnig y cyllid isaf ar gyfer y celfyddydau a diwylliant yn Ewrop ac mae angen strategaeth gynaliadwy yn y tymor hir.”

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru eu bod nhw’n “falch” na fydd Equity yn mynd ar streic, a fyddai wedi golygu canslo rhai perfformiadau.

“Rydym yn parchu’n llwyr hawl aelodau Equity yng Nghorws WNO i gymryd camau pellach yn brin o streic,” medden nhw.

“Byddwn yn parhau i gynnal trafodaethau agored a thryloyw gyda’r undebau ac rydym wedi ymrwymo i ddod o hyd i ateb sy’n gweithio i aelodau Corws a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru tra hefyd yn cydnabod realiti sefyllfa ariannol Opera Cenedlaethol Cymru yn dilyn toriadau sylweddol i gyllid cyhoeddus.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Tra’n cydnabod yr heriau sy'n wynebu cyrff celfyddydol, mae’r buddsoddiad ychwanegol rydyn ni wedi cyhoeddi yn gam sylweddol ymlaen o'r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd. 

"Dyma gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwydiogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.