Dyn oedd yn cuddio o'r FBI yn Sir Conwy yn wynebu achos i'w ddychwelyd i America
Bydd dyn o America aeth ar ffo o'r FBI am 20 mlynedd cyn iddo gael ei ddal yng ngogledd Cymru yn wynebu gwrandawiad i’w ddychwelyd yn ôl i’r UDA ddiwedd y flwyddyn.
Cafwyd hyd i Daniel Andreas San Diego, 47 oed, ym Maenan, Sir Conwy, lle'r oedd wedi prynu tŷ yno'r llynedd.
Roedd ar restr 'most wanted' yr FBI cyn iddo gael ei ddal.
Mae wedi ei amau o osod dau fom yn ardal San Francisco yng Nghaliffornia yn 2003.
Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun mewn gwrandawiad rhagarweiniol am achos estradeiddio (extradite), fe wnaeth Daniel San Diego siarad i gadarnhau ei fanylion personol.
Fe fydd yn parhau yn y ddalfa cyn yr achos llawn, a fydd yn cychwyn ar 8 Medi. Mae disgwyl i’r achos bara bum diwrnod.
Dywedodd yr FBI yn flaenorol bod gan San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, Califfornia, aelodaeth â grŵp hawliau anifeiliad eithafol, a bod yna wobr o $250,000 (£198,000) am wybodaeth a fyddai’n arwain nhw i’w arestio.
Mae San Diego yn gysylltiedig â “thri achos o fomio ar ddau gwmni gwahanol” yn ogystal â “chludo bomiau yn groes i’r gyfraith.”
Cafodd Daniel San Diego ei ddal gan swyddogion o’r Asiantaeth Troseddau Cenedlaethol, gyda chefnogaeth Plismona Gwrthderfysgaeth a Heddlu Gogledd Cymru, mewn tŷ mewn ardal wledig yn Sir Conwy ar 25 Tachwedd.