Marwolaeth dyn a gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr 'ddim yn amheus'
Does dim lle i gredu bod marwolaeth dyn gafodd ei ddarganfod mewn cronfa ddŵr ym Mhowys yn un amheus.
Cafodd y dyn ei ddarganfod yn gwisgo siwt wlyb neu wetsuit yng nghronfa Claerwen fis Hydref.
Mae'r crwner wedi gofyn am gymorth y cyhoedd i geisio adnabod y corff.
Ddydd Sul, fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gyhoeddi apêl arall i adnabod y corff.
Fe gafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Gronfa Ddŵr Claerwen yn dilyn adroddiadau fod corff yn y dŵr ychydig cyn 08.30 ddydd Gwener 18 Hydref 2024.
Dywedodd y llu y gallai'r corff fod wedi bod yno am "hyd at 12 wythnos".
Yn ôl y Ditectif Arolygydd Anthea Ponting, corff dyn gafodd ei ddarganfod oedd rhwng 30 a 60 oed.
"Roedd y dyn yn chwe throedfedd o daldra ac yn gwisgo siwt wlyb Zone 3 Agile," meddai.
"Mae'r siwt wlyb yn fawr iawn, felly mae’n bosibl fod y person oedd yn ei gwisgo tua 6" - 6'5" o daldra, tua 202-220 pwys, gyda brest 44-48 modfedd."
Ychwanegodd y Ditectif Arolygydd Ponting bod y llu yn "cadw meddwl agored" am amgylchiadau ei farwolaeth.