Newyddion S4C

Y Pab Ffransis wedi marw yn 88 oed

Y Pab Ffransis wedi marw yn 88 oed

Mae’r Pab Ffransis wedi marw yn 88 oed. 

Cyhoeddodd gwasanaeth newyddion y Fatican iddo farw yn ei gartref, Casa Santa Marta, fore Llun y Pasg. 

Daeth cadarnhad nos Lun iddo farw o strôc a phroblemau gyda'i galon.    

Bu farw'r Pab Ffransis lai na phedair awr ar hugain wedi iddo ymddangos ar Sgwâr San Pedr ar Sul y Pasg pan gyhoeddodd neges fer iawn yn dymuno Pasg Hapus i filoedd a oedd wedi ymgynnull yno. 

Roedd mewn cadair olwyn, ac fe chwifiodd ei law o'r balconi.

Oherwydd cyflwr ei iechyd, cafodd ei anerchiad Pasg traddodiadol ei ddarllen gan gynorthwyydd, ac wedi hynny cafodd ei yrru o amgylch y sgwâr wrth iddo gyfarch y dorf.

Mae'n gorwedd bellach mewn arch yn nghapel Casa Santa Marta yn y Fatican, a bydd defod yn cael ei chynnal am 20:00 nos Lun yn datgan y farwolaeth yn swyddogol. 

O ddydd Mercher, bydd modd i bobl ymweld â Basilica San Pedr lle bydd yn gorwedd.

Wrth gyhoeddi ei farwolaeth fore Llun dywedodd y Goruchaf Gardinal Farrell : "Gyda'r tristwch mwyaf, rydw i'n cyhoeddi marwolaeth y Pab Ffransis. 

"Am 7.35 y bore hwn, dychwelodd Ffransis, Esgob Rhufain, i dŷ ei Dad. Trwy gydol ei fywyd fe wnaeth e ymroi i wasanaethu ei Arglwydd a'i Eglwys."

Roedd pryderon am gyflwr ei iechyd ers cryn amser ac roedd wedi bod yn cael triniaeth ar gyfer niwmonia a broncitis.

Yn ystod ei gyfnod o 12 mlynedd yn arwain yr Eglwys Gatholig, cafodd y Pab Ffransis driniaeth mewn ysbyty droeon. 

Ymddangosodd mewn sawl digwyddiad cyhoeddus wedi iddo adael yr ysbyty ar 23 Mawrth eleni. 

Cafodd y Pab Ffransis, Jorge Mario Bergoglio, ei eni yn Buenos Aires yn yr Ariannin yn 1936 ac fe gafodd ei ordeinio yn offeiriad Catholig yn 1969. Fe ddaeth yn Archesgob Buenos Aires yn  1998 ac fe'i wnaed yn gardinal yn 2001 gan y Pab Ioan Pawl II.

Yn dilyn ymddiswyddiad y Pab Bened XVI yn 2013, fe gafodd ei ethol fel ei olynydd. Fe ddewisodd Ffransis fel ei enw pabol mewn teyrnged i Sant Ffransis o Assisi.

Teyrngedau 

Roedd Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andrew John ymhlith y cyntaf i roi teyrnged iddo fore Llun.

"Gyda thristwch dwysaf y clywais am farwolaeth y Pab Ffransis. Gyda'i farwolaeth, mae'r byd wedi colli arweinydd yr oedd ei gariad, ei dosturi a'i ofal dros y tlawd a'r rhai ar yr ymylon yn deilwng o'r Sant y dewisodd gymryd ei enw," meddai.   

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan: "Gyda thristwch mawr y dysgais am farwolaeth Ei Sancteiddrwydd y Pab Ffransis y bore yma. Fel Prif Weinidog Cymru, ac fel Cristion, rwy’n cydymdeimlo’n ddwys â’r gymuned Gatholig yng Nghymru ac o gwmpas y byd ar hyn o bryd.

"Arweiniodd y Pab Ffransis gyda gostyngeiddrwydd diwyro, dewrder a thosturi. Atgoffodd bob un ohonom nad tasg wleidyddol neu gymdeithasol yn unig yw’r frwydr yn erbyn tlodi, newid hinsawdd ac anghyfiawnder, ond galwad foesol. 

"Yn ei fisoedd olaf, siaradodd ag eglurder moesol, gan gondemnio’r hyn y cyfeiriodd ato fel yr ‘hil-laddiad’ yn Gaza, gan annog y byd i gydnabod dynoliaeth yr holl bobl ac i ddewis heddwch dros ddinistr. 

"Mewn byd sy’n aml yn teimlo’n rhanedig, adeiladodd y Pab Ffransis bontydd o undod a bydd ei etifeddiaeth yn parhau yn y bywydau y cyffyrddodd â nhw a’r gwerthoedd a hyrwyddodd - gwerthoedd sy’n parhau i’n hysbrydoli ni yma yng Nghymru.

"Ar ran Llywodraeth Cymru, cynigiaf ein cydymdeimlad dwysaf i bawb sy’n galaru am ei golled. Boed iddo orffwys mewn heddwch, a bydded i’w esiampl barhau i’n harwain a’n hysbrydoli ni i gyd."

Un o'r bobl olaf i ymweld ag e ddydd Sul oedd Dirprwy Arlywydd America, JD Vance. 

Mewn neges ar X, dywedodd: " Rwy'n meddwl am y miliynau o Gristnogion ar hyd lled y byd a oedd yn ei garu. 

“Roeddwn yn hapus i'w weld ddoe, ond roedd yn amlwg yn wael iawn." 

Newidiadau

Yn ystod ei fywyd cyhoeddus roedd Ffransis yn cael ei adnabod am ei wyleidd-dra, pwyslais ar drugaredd Duw, pryder dros dlodion, deialog rhwng crefyddau ac agwedd llai ffurfiol.

Fe wnaeth e hefyd annog agwedd mwy ystyrlon tuag at y gymuned LHBTC.

Fe oedd y Pab cyntaf o Dde America ac o Hemisffer y De, a’r cyntaf i gael ei eni neu ei fagu y tu allan i Ewrop ers Pab Gregory III o Syria yn yr 8fed ganrif.

Arweiniodd nifer o newidiadau yn yr Eglwys Gatholig ac ymddiheurodd i bobl a gafodd eu cam-drin yn rhywiol gan offeiriaid.

Angladd 

Fel gyda phob Pab, mae ei fodrwy bellach wedi cael ei thynnu a'i thorri gyda morthwyl.    

Ac yn draddodiadol, mae angladd y Pab yn ddigwyddiad sydd wedi ei lunio'n gywrain, ond yn ddiweddar cymeradwyodd y Pab Ffransis gynlluniau i "symleiddio'r" broses.

Cafodd pabyddion blaenorol eu claddu mewn arch o dderw, cypres a phlwm.  

Mae'r Pab Ffransis wedi dewis arch bren syml gyda sinc.  

Mae e hefyd wedi cael gwared â'r traddodiad o osod corff y Pab ar blatffom uwch ym Masilica Sant Pedr fel bod modd i'r cyhoedd ei weld. 

Yn hytrach bydd modd i alarwyr roi teyrnged tra bydd ei gorff y tu mewn i'r arch, gyda'r clawr wedi ei dynnu oddi yno.  

A'r Pab Ffransis fydd y cyntaf mewn dros ganrif i'w gladdu y tu allan i'r Fatican.  

Bydd yn gorffwys ym Masilica'r Santes Fair yn Rhufain.  

Yn draddodiadol ers 1378 mae’r Pab yn cael ei ethol gan Goleg y Cardinaliaid, proses sydd yn destun y ffilm ddiweddar Conclave.

Ymhlith yr enwau sy’n cael eu crybwyll i’w olynu mae'r Cardinaliaid Matteo Zuppi, Gerhard Muller, Angelo Scola, Angelo Bagnasco, Raymond Burke, Robert Sarah a Malcolm Ranjith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.