Ymchwilio i farwolaethau 'anesboniadwy' yn Rhondda Cynon Taf
Stryd Fawr Hirwaun
Mae'r heddlu yn ymchwilio i ddwy farwolaeth "anesboniadwy" yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd cyrff dyn a menyw eu darganfod mewn eiddo ar Stryd Fawr Hirwaun am tua 17:45 nos Wener 21 Chwefror.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod teulu'r ddau wedi cael gwybod er bod y cyrff heb gael eu hadnabod yn ffurfiol eto.
Mae cordon heddlu mewn lle yn yr ardal yn ogystal â swyddogion ychwanegol.
Fe wnaeth y llu ddiolch i bobl leol am eu hamynedd wrth i swyddogion gynnal yr ymchwiliad.