
Southport: Athrawes ioga yn disgrifio helpu nifer o blant i ddianc rhag iddyn nhw gael eu lladd
Mae athrawes ioga a gafodd ei thrywanu sawl gwaith yn ystod ymosodiad Southport wedi disgrifio helpu nifer o blant i ddianc rhag iddyn nhw gael eu lladd.
Fe wnaeth Axel Rudakubana, 18 lofruddio Alice da Silva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, a Elsie Dot Stancombe, saith oed, ym mis Gorffennaf y llynedd.
Roedd Rudakubana - a gafodd ei garcharu am 52 mlynedd ym mis Ionawr - hefyd wedi ceisio llofruddio wyth plentyn arall yn ogystal â John Hayes a Leanne Lucas.
Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd Ms Lucas, oedd yn cynnal dosbarth dawnsio thema Taylor Swift ar ddiwrnod y digwyddiad, ei bod yn ceisio helpu pant eraill i ddianc yr ystafell er iddi gael ei thrywanu yn ei phen, cefn ac ysgwyd.
"Fe wnaeth [Rudakubana] agor y drws a gafael mewn plentyn. Doeddwn i ddim yn gwybod beth roedd e'n gwneud," meddai.
"Wedyn fe wnaeth e afael mewn plentyn arall, ac un arall. Wedyn roeddwn i wedi bloeddio 'pwy yw hwnna?'.
"Dwi'n methu cofio beth ddigwyddodd wedyn achos mae'n symud o le'r oedd y merched draw i le dwi'n sefyll.
"Dwi'n cofio rhywbeth yn mynd mewn i fy nghefn... dywedodd fy ymennydd 'mae wedi trywanu fi'. A wedyn fe wnaeth e wneud eto.
"Ond roeddwn i'n gwybod os nad oeddwn i'n gallu cael pawb allan, roedden nhw gyd mynd i farw."

Fe wnaeth Ms Lucas ddioddef pum clwyf i'w phen, cefn, asennau, ysgyfaint ac ysgwyd.
Er gwaethaf ei anafiadau, roedd hi a'i ffrind, Heidi Liddle wedi llwydo i helpu nifer o blant ddianc o'r ystafell.
Dywedodd Leanne Lucas: "Roedd e'n fwy o faint na fi ac roeddwn i'n meddwl bod angen cymorth arnaf.
"Roeddwn yn galw 'rhedwch' ac roeddwn i wedi galw 999 a gofyn am yr heddlu.
"Roeddwn i eisiau i bawb ddianc o'r adeilad.
"Roeddwn i'n parhau i ddweud 'mae plant tu fewn, mae plant tu fewn'.
"A wedyn roedd pobl yn gofyn cwestiynau i mi ac roeddwn i'n dweud 'ewch i ôl y plant'. Dydw i ddim yn gwybod beth arall roeddwn i'n gallu gwneud.
"Dwyt ti ddim yn teimlo'n ddewr pan ti'n oedolyn.
"Dywedodd yr heddlu byddai'r plant i gyd wedi marw os nad oeddwn i a Heidi wedi eu help, ac mae hwnna'n rhoi dim byd i'r plant sydd wedi marw."

Mae’r FBI ac Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau bellach wedi cytuno i helpu heddlu’r DU i ymchwilio i lofrudd Southport Axel Rudakubana.
Yn ôl adroddiadau, mae ymchwilwyr yn gobeithio dod o hyd i chwiliadau wedi'u dileu o gyfrifon Google a Microsoft y llofrudd.
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i nifer o ddyfeisiadau yn ystod archwiliad o gartref Rudakubana yn Banks, Sir Gaerhirfryn.
Roedd wedi dileu ei hanes ar-lein cyn iddo adael i deithio i'r stiwdio ddawns The Hart Space yn Southport, toc wedi 11:00.
'Cofio'
Wrth drafod ei bywyd ers yr ymosodiad, dywedodd Ms Lucas bod rhaid iddi fyw er cof am y tair merch a fu farw.
"Roeddwn i wedi darganfod ei fod wedi pledio'n euog ar y newyddion... mae'n galed achos roeddwn i'n teimlo mor flin.
"Roeddwn ni'n gwybod mai ef oedd yn gyfrifol, roedd pob un person yn gwybod.
"Mae'n ysgytwol maint y dystiolaeth roedd ganddyn nhw arno, ac roedd e wedi cwympo trwy'r rhwyd.
Ychwanegodd: "Yr unig reswm i fodoli ydi’r ffaith fy mod i wedi dianc ac yn fyw, a'r ffaith bod y merched ddim. Mae rhaid i fi aros yn fyw er eu mwyn nhw, achos does dim pwynt os nad ydw i ddim.
"Mae'r plant yn cynrychioli daioni, dwi'n meddwl, daioni pur a hapusrwydd.
"Roeddwn nhw'n caru byw ac yn gwneud y mwyaf o bob moment. Dyna sut dwi'n eu cofio nhw."