A470: Dau yn yr ysbyty ar ôl i gar daro mewn i goeden
Gwrthdrawiad ar yr A470
Mae dau berson yn yr ysbyty ar ôl i gar daro mewn i goeden ar yr A470.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi derbyn galwad am "wrthdrawiad difrifol" ar yr A470 rhwng Abercynon a Phentrebach am 11:46 ddydd Sul.
Fe wnaeth gar wyro oddi ar y ffordd a tharo mewn i goeden, meddai'r llu.
Roedd dau berson yn y car ac maen nhw'n derbyn triniaeth am eu hanafiadau yn yr ysbyty yng Nghaerdydd.
Bu rhaid cau'r ffordd am chwe awr ddydd Sul.
Ychwanegodd y llu eu bod yn chwilio am unrhyw un oedd yn dyst i'r gwrthdrawiad neu gyda lluniau dashcam.
Fe allwch chi gysylltu gyda'r llu trwy ddyfynnu'r cyfeirnod 2500059230.