Newyddion S4C

Yr Almaen: Ceidwadwyr yn ennill etholiad wrth i’r blaid adain dde AfD ddod yn ail

Friedrich Merz, arweinydd y bloc CDU/CSU yn Yr Almaen
Friedrich Merz

Mae Friedrich Merz, arweinydd y bloc CDU/CSU ceidwadol yn ffurfio llywodraeth newydd yn yr Almaen wrth i’r blaid AfD asgell dde eithafol ennill ei ganlyniadau gorau erioed.

Mae plaid Democratiaid Cristnogol ceidwadol yr Almaen (CDU) Mr Merz a phlaid yr Undeb Cymdeithasol Cristnogol (CSU) wedi ennill etholiadau ffederal y wlad - wrth i’r blaid asgell dde yr AfD ddod yn ail yn y bleidlais ar ôl i blaid y Canghellor Olaf Scholz ddymchwel.

Dywedodd arweinydd y bloc CDU/CSU, Mr Merz, a fydd yn fwyaf tebygol o ddod yn ganghellor nesaf yr Almaen, y byddai'n gweithio ar ffurfio llywodraeth cyn gynted â phosibl, er nad yw'n glir eto pa mor hawdd fydd hynny.

Wrth siarad nos Sul, dywedodd Mr Merz: “Mae gennym ni bron i wyth wythnos tan y Pasg nawr, a dwi’n meddwl y dylai hynny fod yn ddigon o amser - yr amser hiraf - i ffurfio llywodraeth yn yr Almaen.”

Mae canlyniadau cyntaf yr etholiad yn dangos mai'r CDU/CSU a gymerodd y gyfran fwyaf o'r bleidlais gyda 28.5%, tra bod yr AfD yn ail gyda 20.8%.

Mae'n bosibl y byddai modd i Mr Merz ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Sosialaidd (SPD), er eu perfformiad gwael.  

Ffurfiodd y Democratiaid Sosialaidd lywdoraeth yno y llynedd gydag Olaf Scholz yn Ganghellor cyn i'r llywodraeth ddymchwel. 

Maen nhw wedi cael tua 16% o'r bleidlais.      

Mae'r ddwy blaid yn gwrthod cydweithio â phlaid adain dde yr AfD.  

Mae Friedrich Merz wedi addo datrys y rhan fwyaf o broblemau'r Almaen mewn pedair blynedd. 

Mewnfudo a diogelwch yw prif bynciau llosg yn yr Almaen ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.