'Bygythiad': Cadeirydd Y Gronfa Ffederal yn ymateb i ymchwiliad troseddol

Jerome Powell

Mae Cadeirydd Y Gronfa Ffederal, Jerome Powell, wedi taro nôl ar ôl i erlynwyr ffederal gychwyn ymchwiliad troseddol iddo.

Mewn fideo ddydd Sul fe ddywedodd Powell fod Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau wedi bygwth cyhuddiad troseddol ynglŷn â thystiolaeth yr oedd wedi ei rhoi am adnewyddiadau i adeiladau Y Gronfa Ffederal.

Mae'r Gronfa Ffederal yn annibynnol o Lywodraeth yr Unol Daleithiau ond wedi dod dan bwysau cynyddol gan weinyddiaeth Donald Trump i wneud fel y mae'r Arlywydd ei eisiau.

Dywedodd Jerome Powell bod yr hyn sydd wedi digwydd yn "ddigynsail" a bod yr ymchwiliad wedi cychwyn am ei fod o wedi gwylltio Donald Trump am iddo wrthod lleihau cyfraddau llog.

"Mae hyn yn ymwneud ag os yw'r Ffed yn medru parhau i osod cyfraddau llog ar sail tystiolaeth ac amodau economaidd, neu os bydd polisïau ariannol yn cael eu penderfynu gan bwysau gwleidyddol neu fygythiad," meddai Powell.

Ychwanegodd fod ganddo "barch" tuag at y gyfraith ac nad oedd neb "uwchlaw'r gyfraith".

"Ond mae angen edrych ar y weithred ddigynsail yma yn y cyd-destun ehangach o fygythiadau a'r pwysau sydd yn mynd ymlaen gan y weinyddiaeth," meddai.

Ddydd Sul fe ddywedodd Trump mewn cyfweliad gyda NBC News nad oedd yn gwybod am yr ymchwiliad gan yr Adran Gyfiawnder.

"Dwi ddim yn gwybod dim am y peth, ond yn sicr dydy o ddim yn dda iawn yn y Ffed a dydy o ddim yn dda iawn am adeiladu adeiladau," meddai am Powell.

Cafodd Powell ei enwebu i fod yn gadeirydd yn 2017. Mae Trump yn gyson wedi bygwth cael gwared ar Powell ac wedi ei feirniadu am beidio torri cyfraddau llog mor gyflym ac y byddai yn dymuno.

Fe gafodd cyfraddau llog yn America eu torri tair gwaith yn ail hanner 2025. 

Llun: Reuters 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.