Trump yn bygwth ymosodiad milwrol ar Iran wrth i brotestiadau barhau

Donald Trump

Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn ystyried ymosodiadau milwrol ar Iran wedi i gannoedd farw yn ystod protestiadau yn erbyn y llywodraeth yn y wlad.

Dywedodd ffynhonnell filwrol wrth wasanaeth newyddion CBS bod Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi derbyn trosolwg o opsiynau milwrol yr Unol Daleithiau pe bai hi’n penderfynu ymosod ar Iran.

Dywedodd Trump eu bod nhw’n ystyried “opsiynau cryf iawn” ond ei fod yn credu bod arweinwyr Iran “eisiau trafod” am eu bod nhw “wedi cael digon o gael eu curo gan yr Unol Daleithiau”.

Ond ychwanegodd: “Efallai y bydd yn rhaid i ni weithredu cyn cyfarfod”.

“Rydyn ni’n edrych ar y mater o ddifrif,” meddai wrth ohebwyr ar awyren Air Force One yn hwyr ddydd Sul.

“Mae’r fyddin yn edrych arno, ac rydyn ni’n edrych ar rai opsiynau cryf iawn. Fe wnawn ni benderfyniad.”

Dywedodd Llefarydd Senedd Iran, Mohammad Baqer Qalibaf: “Os bydd ymosodiad ar Iran, bydd y tiriogaethau dan feddiannaeth Israel, yn ogystal â holl ganolfannau a llongau’r Unol Daleithiau, yn dargedau cyfreithlon.”

Dywedodd asiantaeth newyddion HRANA, sy’n ymgyrchu o blaid hawliau dynol yn y wlad, bod o leiaf 500 o brotestwyr a 48 o weithwyr diogelwch wedi cael eu lladd.

Mae o leiaf 10,600 o bobl wedi cael eu harestio dros gyfnod o bythefnos, medden nhw.

Yn gynharach ddydd Sul, cyhoeddodd arweinwyr Iran rybudd llym yn erbyn unrhyw ymyrraeth filwrol.

Mae arweinwyr Iran wedi dweud mai “fandaliaid”, wedi eu hannog gan yr Unol Daleithiau ac Israel, sy’n gyfrifol am y protestiadau, ac wedi annog eu cefnogwyr i brotestio o blaid y llywodraeth ddydd Llun.

Maen nhw wedi cyhoeddi tri diwrnod o alaru am “ferthyron” sydd wedi eu lladd mewn “brwydr genedlaethol yn erbyn yr Unol Daleithiau ac Israel”.

Daw’r protestiadau yn sgil anhapusrwydd am gyflwr economaidd Iran, wrth i chwyddiant gynyddu i dros 40% yn y wlad.

Erbyn hyn mae’r protestwyr yn galw am ddod â chyfnod Goruchaf Arweinydd Iran, Ayatollah Ali Khamenei, i ben.

Mae clerigwyr Iran wedi llywodraethu’r wlad ers y Chwyldro Islamaidd ym 1979.

Llun: Reuters.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.