Cyflwyno newidiadau ym maes absenoldeb rhieni o'r gwaith

Keir Starmer

Mae Prif Weinidog y DU wedi croesawu newidiadau newydd i absenoldeb rhiant o'r gwaith, gan nodi eu bod yn rhoi "urddas yn ôl wrth wraidd gwaith".

Mae'r diwygiadau yn cynnwys hawliau i rieni i fod yn absennol o'r gwaith yn ddi-dâl o'r diwrnod cyntaf mewn swydd newydd - newid a fydd yn rhoi mwy o hyblygrwydd i 1.5 miliwn o rieni ychwanegol rannu cyfrifoldebau gofal plant, yn ôl Llywodraeth y DU.

Mae partneriaid sydd wedi colli eu plentyn hefyd ar fin cael hawliau pellach i absenoldeb tadolaeth o fis Ebrill o dan gyfreithiau newydd ar wahân.

Bydd hyn yn golygu y bydd tadau a phartneriaid sy'n colli eu partner cyn pen-blwydd cyntaf eu plentyn yn gymwys i gael hyd at 52 wythnos o absenoldeb.

Yn ôl amcangyfrifon, mae tua 390,000 o bobl allan o waith oherwydd cyfrifoldebau gofalu, ond eisiau swydd, yn ôl yr Adran Busnes a Masnach.

Bydd y newidiadau'n cael eu cyflwyno yn y Senedd yn San Steffan ddydd Llun, meddai Llywodraeth y DU.

Daw ar ôl i'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth dderbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Rhagfyr.

'Bargen fodern i weithwyr'

Mewn datganiad, dywedodd Syr Keir Starmer: "Bydd y newidiadau rydyn ni’n eu cyflwyno yn golygu y gall pob rhiant newydd gymryd amser o'r gwaith yn briodol pan fydd ganddyn nhw blentyn, ac nad oes neb yn cael ei orfodi i weithio tra’n sâl dim ond i gael dau ben llinyn ynghyd.

"Mae hyn yn ymwneud â rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar deuluoedd sy’n gweithio i gydbwyso gwaith, iechyd a chostau byw."

Fe aeth Prif Weinidog y DU ymlaen i ddweud fod ei lywodraeth yn cyflwyno "bargen fodern i weithwyr".

"Tâl salwch cryfach, absenoldeb rhiant o’r diwrnod cyntaf, ac amddiffyniadau sy’n rhoi urddas yn ôl wrth wraidd gwaith," meddai.

"Oherwydd pan rydyn ni’n parchu ac yn gwobrwyo’r rhai sy’n cadw Prydain i redeg, rydyn ni’n adeiladu economi gryfach i bawb."

Mae hawliau diwrnod cyntaf i dâl salwch statudol, gwaharddiad ar gontractau dim oriau, ac amddiffyniadau newydd i famau newydd a menywod beichiog hefyd wedi'u cynnwys o dan y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol y TUC, Paul Nowak: "Bydd y Ddeddf Hawliau Cyflogaeth yn cyflawni diwygiadau synnwyr cyffredin hanfodol i filiynau o bobl ledled y wlad - gan gynnwys tâl salwch i bob gweithiwr a gwell absenoldeb i rieni."

"Bydd Prydain bellach yn cyd-fynd â gwledydd eraill lle mae gan weithwyr amddiffyniadau gwell eisoes. 

"Ac yn hollbwysig, bydd y ddeddfwriaeth yn rhoi safonau byw uwch, ac incwm diogel i bobl sy'n gweithio.

"Bydd cyflogwyr da hefyd yn croesawu'r newidiadau hyn - mae'r Ddeddf yn eu hamddiffyn rhag cystadleuwyr y mae eu modelau busnes wedi'u hadeiladu ar gyflogaeth ansicr â chyflog isel."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.