Lyn Jones yn ymddiheuro ar ôl nodi fod y Dreigiau yn 'chwarae fel menywod'
Mae'r cyn chwaraewr rygbi a hyfforddwr Lyn Jones wedi ymddiheuro ar ôl iddo ddweud fod y Dreigiau "yn chwarae fel menywod" tra'n crynhoi hanner cyntaf y gêm rhyngddyn nhw â Benetton yng Nghwpan Her Ewrop.
Collodd y Dreigiau yn drwm, 74-21 yn erbyn y clwb o'r Eidal yn Treviso, nos Sadwrn.
Tra'n darlledu ar raglen Y Clwb Rygbi ar S4C, dywedodd Lyn Jones, sy'n gyn hyfforddwr y Dreigiau: "Swydd fi yw bod yn onest, ac mae'r Dreigiau jest ddim wedi troi lan. Perfformiad warthus. Odd Ifan yn ddweud... fel plant, ond mae'n nhw'n chwarae fel menywod..."
Roedd Mr Jones yn cyfeirio at sylwadau'r sylwebydd Ifan Phillips ar y pryd.
Dywedodd Mr Jones "sori" yn syth ar ôl ei sylw, cyn i gyflwynydd y rhaglen Catrin Heledd gamu i mewn a dweud, "Fel plant, ddywedodd e, dim fel menywod, fel plant," wrth gyfeirio at yr hyn ddywedodd Mr Phillips.
Wedi edrych ymlaen at ail hanner y gêm yn ddiweddarach, ymddiheurodd Mr Jones am ei sylwadau.
"Defnyddiais i term anffodus yn yr hanner amser a 'dw i'n ymddiheuro am hynny... odd y perfformiad mor siomedig, o'n i'n rhwystredig," meddai.
Ar gyfryngau cymdeithasol, mae rhai gwylwyr wedi beirniadu sylw gwreiddiol Lyn Jones.
Mewn ymateb, dywedodd S4C bod "sylwadau fel hyn yn amlwg yn annerbyniol."
"Roeddem yn falch i Lyn ymddiheuro yn ystod y darllediad, ond rydym wedi trafod yr hyn ddigwyddodd gyda’r cwmni cynhyrchu er mwyn sicrhau na fydd yn digwydd eto," meddai'r darlledwr.

