Naw o doiledau mewn 10 tafarn ar Ynys Môn yn cynnwys gweddillion cocên

Hansh

Naw o doiledau mewn 10 tafarn ar Ynys Môn yn cynnwys gweddillion cocên

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am gyffuriau.

Mae ymchwiliad wedi darganfod bod naw o doiledau mewn 10 tafarn a ddewiswyd ar hap ar Ynys Môn yn cynnwys gweddillion cocên.

Gan ddefnyddio weips arbennig oedd yn profi am gocên, cafodd olion o’r cyffur ei ddarganfod mewn naw allan o ddeg o doiledau tafarndai ar Ynys Môn gan ymchwilydd cyfres newydd ar S4C, Cymru ar Gyffuriau.

Dywedodd gohebydd y gyfres, Zahra Errami, sy’n wreiddiol o Ynys Môn, ei bod wedi gweld twf ym modolaeth y cyffur ar nosweithiau allan. Roedd hi yn awyddus i weld pa mor gyffredin oedd o ar yr ynys.

Aeth Zahra a’r criw cynhyrchu o amgylch 10 tafarn a gafodd eu dewis ar hap mewn un noson a phrofi toiledau'r dynion a’r menywod. 

Er iddi amau y byddai olion cocên mewn nifer o’r tafarndai roedd gweld bod naw allan o’r deg yn profi’n bositif yn syndod iddi.

“Mewn un tafarn cerddodd un o’r tîm i mewn i’r toiled a gweld dyn gyda bag o bowdr gwyn a darn o arian papur wedi’i rolio, fel petase’n barod i fynd amdani!” meddai.

“O’n i’n gwybod bod e’n gyffredin ond do’n i ddim yn disgwyl i rywun fod mor agored â hynna.”

Image
Dyn anhysbys

Yn ôl UKAT (UK Addiction Treatment Centre), mae defnydd cocên wedi mwy na dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf.

Dywedodd un dyn nad oedd am gael ei enwi bod ei ddefnydd yr un mor gyffredin yng nghymunedau cefn gwlad Ceredigion.

“Bob tro fi’n mynd allan mae rhywun yn rhywle efo cocên yn ei boced,” meddai. 

Roedd e’n dweud bod y cyffur bron mor gyffredin ag alcohol a bod 'na’n aml giwio yn nhai bach y dynion ac nad yw hynny  “am y rheswm arferol”.

Roedd e’n dweud ei fod wedi dechrau cymryd y gyffur ychydig flynyddoedd yn ôl a bod y cyffur i’w weld ar bob noson allan bellach.

Mae “cymysgedd o bobl wrthi, pobol gyda swyddi da, pobol bydde’r cyhoedd yn meddwl bydde byth yn neud y shwt beth,” meddai.

Image
Deliwr anhysbys

‘Elw’

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Genedlaethol mae marchnad cocên y Deyrnas Unedig wedi tyfu i fod werth tua 11 biliwn. 

Yn ôl un deliwr cyffuriau o Gaerdydd, mae cymaint o alw fel bod ganddo bobl yn gweithio iddo ar draws canolbarth Cymru. 

Dywedodd ei fod wedi bod yn gwerthu ers pan oedd yn 12 oed, ac mai cocên yw’r brif ffynhonnell arian iddo bellach yn yr ardaloedd gwledig lle mae’n gweithredu.

“Cocên heb os yw’r money maker,” meddai.

“Wythnos diwetha’ nes i ddeg mil o elw, a cocên oedd yn gyfrifol am dros 70% o hwnnw.

“Fi ’ma i wneud arian i gynnal ’y nheulu. Fi’n cyflenwi athrawon, nyrsys, doctoriaid, cyfreithwyr, selebs.”

Er ei fod wedi treulio cyfnod yn y carchar yn y gorffennol am droseddau yn ymwneud â chyffuriau, dywedodd nad oedd yn bwriadu stopio tra bydd y galw yn parhau.

I glywed fwy am y stori ewch i Youtube HanshS4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.