Cyhuddo dyn 30 oed o ddynladdiad wedi ymosodiad yng Nglyn Ebwy
Mae dyn 30 oed wedi cael ei gyhuddo o ddynladdiad wedi i ddyn farw yn dilyn ymosodiad yng Nglyn Ebwy.
Mae'r dyn o Gaerdydd yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Iau.
Cafodd swyddogion eu galw i ymosodiad honedig tu allan i dafarn The Picture House ar Stryd Bethcar yng Nglyn Ebwy ar ôl 23.30 nos Wener diwethaf.
Fe gafodd Marcus Lee Carpenter, 37, o Dredegar ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr oedd yn bygwth ei fywyd, ond bu farw yn ddiweddarach o'i anafiadau.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r llu yn dweud bod yr ymchwiliad yn parhau ac yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu trwy ffonio 101 gan roi'r cyfeirnod 2600055384.