'Anodd a heriol': Galw am well cyfleusterau chwaraeon yng ngorllewin Cymru
Mae Chwaraeon Cymru wedi cydnabod bod angen “gwaith pellach” ar ôl i athletwyr o orllewin Cymru ddweud wrth Newyddion S4C fod angen gwell cyfleusterau yno.
Mae chwaraewyr campau amrywiol wedi galw am well cyfleusterau chwaraeon arbenigol yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr i gefnogi chwaraewyr lefel uwch yng ngorllewin Cymru.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd un cyn-chwaraewraig badminton fu’n cynrychioli ei gwlad y bu’n rhaid iddi fynd y tu hwnt i Gymru.
Roedd Jordan Hart, 30 oed, o Hwlffordd yn Sir Benfro yn cynrychioli Gwlad Pwyl rhwng 2021 a 2022, a hynny am ei fod “bron yn amhosib” chwarae’r gamp yn llawn amser tra’n byw yng Nghymru, meddai.
“Ar lefel arbenigol, doedd dim byd o gwbwl [yng ngorllewin Cymru].
“Ar gyfer badminton, does dim llwybr na rhaglen hyfforddi i gyrraedd y lefel uchaf.”
Disgrifiodd ei phrofiad yn “sefyllfa anodd a heriol” a bod “unrhywbeth proffesiynol yng Nghaerdydd yn unig”.
Dywedodd y bu’n rhaid iddi “ddewis prifysgol yn seiliedig ar lle'r oedd hyfforddiant badminton ar gael.
“Roedd rhaid i mi ddatblygu fy sgiliau, ond doeddwn i methu achos doeddwn i methu mynychu unrhyw gyfleusterau,” meddai.
“Ar ôl cwblhau yn y brifysgol yn Loughborough, roedd rhaid i fi ystyried beth oedd y cam nesaf i fy ngyrfa broffesiynol ond methais i ddychwelyd i Gymru, heb sôn am orllewin Cymru.”
Yn 2021, symudodd i Wlad Pwyl gan ddweud ar y pryd bod “gweld beth sy’n bosib mewn gwledydd eraill a sut mae gwledydd eraill yn trin eu hathletwyr wedi bod yn drawiadol”.
Dychwelodd i gynrychioli Cymru yn 2022 ond dywedodd wrth Newyddion S4C: “Gobeithio gall athletwyr y gamp aros yng Nghymru yn y dyfodol.”
‘Awr i ffwrdd’
Dywedodd chwaraewraig pêl-droed ifanc sydd wedi cynrychioli Cymru fod angen mwy o bwyslais ar gefnogaeth i chwaraewyr llawr gwlad i allu ddatblygu ym maes pêl-droed.
Mae Casi Gregson o Geredigion, sy’n 18 oed, wedi chwarae pêl-droed ers ei bod yn ifanc ac wedi ennill bron i 40 o gapiau i dimoedd merched ieuenctid Cymru.
“Dydyn ni ddim yn sylwi faint o dalent sydd yn y sir [Ceredigion] i fuddsoddi mwy mewn cyfleusterau arbenigol,” meddai.
Dywedodd bod angen mwy o gefnogaeth ar lawr gwlad i gael pobl trwy’r system.
“O’i gymharu â lle dwi’n hyfforddi ar gyfer Cymru, does dim byd gyda ni yn y gorllewin,” meddai.
“Roedd y cyfleusterau oedd gyda ni yn dal i fod yn awr i ffwrdd.
“Does dim synnwyr bod clybiau pêl-droed yn hyfforddi ar faes chwarae hoci.”
Ar ôl cwblhau TGAU, symudodd Casi Gregson i’r brifddinas i Goleg y Cymoedd ar y Cynllun Ysgoloriaeth Athletwyr Talentog (TASS) sydd, meddai, “yn rhoi mwy o sylw i chwaraeon”.
‘Drutach’
Yn ôl caiacwr o Sir Gâr, tra bod digon o afonydd heriol yn y gorllewin i ymarfer ei champ arnyn nhw, mae yna ddiffyg hyfforddwyr a chyfleusterau i ddatblygu talentau.
Dywedodd Hanna Griffiths, 19 oed, o Sir Gâr sydd yn caiacio dros Gymru ei bod yn “rhwystredig” i orfod teithio.
“Ma’r hyfforddwr a’r cyfleusterau arbnnigol i gyd yng Nghaerdydd ac weithiau bydden i’n teithio i Lundain, Nottingham a’r Bala i hyfforddi,” meddai.
Dywedodd ei fod yn “broblem” i gael offer i hyfforddi adref.
“Dydyn nhw ddim yn cynnig rasus ar fy lefel i yn fy afon leol achos fy mod ar lefel uwch,” meddai.
“Dwi ddim yn credu felly bod digon o gyfleusterau chwaraeon arbenigol ar gael i bobl yng ngorllewin Cymru.
“Mae mwy ar gael yn ne Cymru gyda Chaerdydd yn boblogaidd i athletwyr mwy professiynol sydd yn gallu talu i gael y cyfleusterau arbenigol sy’n ddrutach.”
‘Buddsoddiad’
Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad sydd yn gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru.
Mae gwaith ymchwil gan Newyddion S4C yn dangos fod gwariant gan Chwaraeon Cymru ar gyfleusterau chwaraeon ar lawr gwlad yn 2024/25 yn £3.43 y pen ar gyfer Cymru gyfan.
Roedd y data yn dangos fod siroedd gorllewin Cymru (Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gâr) yn cael mwy na’r cyfartaledd - gan dderbyn £4.88 y pen o wariant.
Dywedodd Owen Lewis, Cyfarwyddwr Systemau Chwaraeon yn Chwaraeon Cymru bod “buddsoddiad sylweddol wedi bod mewn cyfleusterau perfformio ar gyfer nifer o chwaraeon” yng ngorllewin Cymru.
Roedd hynny’n cynnwys beicio, gymnasteg, athletau, nofio a saethu, meddai.
“Fodd bynnag, rydyn ni'n cydnabod bod angen gwaith pellach i sicrhau bod athletwyr ifanc o bob rhan o Gymru'n gallu cyflawni eu potensial, felly rydyn ni'n gweithio gyda Chyrff Rheoli Cenedlaethol a phartneriaid eraill i greu cyfleoedd a chyfleusterau perfformio mwy lleol a rhanbarthol.
“Mae mynediad at yr hyfforddiant o’r ansawdd gorau ac amgylchedd hyfforddi dyddiol gwych yn hanfodol wrth roi cyfle i athletwyr ifanc ddatblygu a gwella.”
Mae Newyddion S4C wedi holi am ymateb Cymdeithas Bêl-droed Cymru.