Disgwyl i Blaid y Democratiaid Cristnogol ennill etholiad Yr Almaen
Mae'r arolygon barn wedi i'r gorsafoedd pleidleisio gau yn yr Almaen yn awgrymu mai'r blaid geidwadol, Y Democratiaid Cristnogol (CDU/CSU) fydd y blaid fwyaf yn y senedd yno.
Yn ôl arolygon barn sydd wedi eu cyhoeddi, mae ganddyn nhw tua 30% o'r bleidlais, gyda'r blaid adain dde AfD yn ail gydag 20% o'r bleidlais.
Dyma fyddai'r canlyniad gorau erioed i'r AfD.
Friedrich Merz, gwleidydd 69 oed o Blaid y Democratiaid Cristnogol sy'n debygol felly o gael ei ethol yn Ganghellor nesaf yr Almaen.
Mae miliynau o Almaenwyr wedi bod yn pleidleisio ddydd Sul, ar ôl i'r tair plaid a oedd yn arfer llywodraethu mewn clymblaid wynebu trafferthion cyn i'r llywodraeth ddymchwel ddiwedd y llynedd.
Y disgwyl yw y bydd y Democratiaid Cristnogol yn hawlio tua 211 o seddi yn y senedd.
Pe bai hynny yn gywir, yna mae'n bosibl y byddai modd iddyn nhw ffurfio clymblaid gyda'r Democratiaid Sosialaidd (SPD), er eu perfformiad gwael.
Ffurfiodd y Democratiaid Sosialaidd lywdoraeth yno y llynedd gydag Olaf Scholz yn Ganghellor cyn i'r llywodraeth ddymchwel.
Yn ôl y rhagolygon, maen nhw wedi cael tua 16% o'r bleidlais.
Mae'r ddwy blaid yn gwrthod cydweithio â phlaid adain dde yr AfD.
Mae Friedrich Merz wedi addo datrys y rhan fwyaf o broblemau'r Almaen mewn pedair blynedd.
Mae mewnfudo a diogelwch yn bynciau llosg yn yr Almaen.
Yn sgil hynny, bydd gweddill gwledydd Ewrop ac America yn cadw llygad barcud ar y datbygiadau diweddaraf.
Mae Friedrich Merz wedi addo bod yn arweinydd cryf yn Ewrop ond bydd o dan bwysau oherwydd y sefyllfa yn Wcráin, gan wynebu arlywydd yn America sydd yn feirniadol o Ewrop ac wedi galw Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky yn unben.
Adain dde
Roedd arweinwyr gwleidyddol yr Almaen wedi cael syndod ar ôl i Ddirprwy Arlywydd America, JD Vance gyfarfod ag ymgeisydd plaid adain dde'r AfD, Alice Weidel yn ddiweddar.
Mae'r AfD eisoes yn boblogiadd mewn rhanbarthau dwyreiniol yn yr Almaen, ac yn ennill tir yn y gorllewin hefyd, gan ddenu cefnogaeth bobl ifanc trwy gyfryngau cymdeithasol fel Tiktok.
Mae un fideo gan Alice Weidel wedi ei gwylio bedair miliwn o weithiau.
Ond mewnfudo oedd eu prif neges, wedi pump o ymosodiadau angheuol ers mis Mai diwethaf, gyda thri yn ystod yr ymgyrch etholiadol, a honiadau mai mewnfudwyr oedd yn gyfrifol am y tri ymosodiad hwnnw.
Llun: Alexandra Beier / AFP