Darganfod corff mewn coedwig wedi diflaniad rhedwraig
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad rhedwraig ifanc o Sir Durham, gogledd Lloegr wedi dod o hyd i gorff mewn coedwig.
Cafodd Jenny Hall, 23 oed, ei gweld ddiwethaf ddydd Mawrth yn gadael ei chartref, Barracks Farm yn Tow Law.
Roedd yr heddlu wedi bod yn chwilio amdani am bum niwrnod.
Cafodd ei char Ford Focus coch ei ddarganfod wedi ei barcio mewn man anghysbell rhwng Eggleston a Stanhope ddydd Mercher.
Yn ôl Heddlu Durham, cafodd y corff ei ddarganfod mewn man diarffordd toc cyn 9.30 fore Sul.
Dyw'r corff ddim wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, ac made teulu Ms Hall wedi cael gwybod am y datblygiadau.
Dyw'r heddlu ddim yn trin ei marwolaeth fel un amheus.