'Rhaid i'r Blaid Lafur ymgyrchu ar lawr gwlad i wrthsefyll bygythiad Reform yng Nghymru'
Mae'n rhaid i'r Blaid Lafur ymgyrchu ar lawr gwlad i wrthsefyll bygythiad Reform UK yng Nghymru, yn ôl cyn-Brif Weinidog Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones, a gafodd ei urddo'n Arglwydd Jones o Ben-y-bont ym mis Ionawr, ei fod am ddefnyddio ei swydd newydd yn Nhŷ’r Arglwyddi i fod yn "llais i Gymru" – ac yn gefnogwr datganoli yn siambr uchaf y Senedd yn San Steffan.
Wrth i Reform UK godi yn y polau piniwn, mae polau sy'n benodol ar gyfer Cymru wedi awgrymu y gallai'r blaid ennill nifer fawr o seddi yn Senedd Cymru yn yr etholiad nesaf.
Dywedodd yr Arglwydd Jones na fydd unrhyw blaid yn debygol o ennill mwyafrif o dan y system bleidleisio gyfrannol newydd yng Nghymru.
"Rwy’n credu nad yw unrhyw un sy’n cymryd y gall hynny ddigwydd yn bod yn onest gyda’i hun mewn gwirionedd," meddai.
"Rwy’n meddwl ei fod yn gwestiwn o bwy sy’n dod gyntaf, pa blaid sydd â’r nifer fwyaf o seddi.
"Nhw fydd y blaid yn llywio'r cyfeiriad o ran penderfynu pwy fydd yn Brif Weinidog.
"Mae’n gwestiwn wedyn pwy fydd yn gweithio gyda phwy? Ni allaf weld Llafur a Phlaid Cymru'n gweithio gyda Reform."
'Cyfathrebu yw popeth'
Er iddo ddweud y byddai’n anodd rhagweld sut y gallai’r pleidleisio newid erbyn y flwyddyn nesaf, dywedodd yr Arglwydd Jones y dylai’r Blaid Lafur fod yn gofyn pam ei bod yn colli rhan o'i phleidlais i blaid Nigel Farage.
"Mae’n rhaid i ni ateb y cwestiwn yna a'i chael yn ôl," meddai.
"Yn y pen draw maen nhw'n cael eu hariannu gan filiwnyddion, mae ganddyn nhw bobl gefnog iawn yn eu harwain, ac eto maen nhw'n smalio mai nhw yw plaid y dosbarth gweithiol. Ein bai ni yw hynny. Ni ddylem byth fod wedi colli’r statws hwnnw, ac mae’n rhaid i ni ei gael yn ôl."
Er mwyn cynnal ymddiriedaeth pleidleiswyr Cymru, awgrymodd yr Arglwydd Jones y bydd yn rhaid i'r Blaid Lafur ymgyrchu ar lawr gwlad.
"Un o’r pethau roeddwn i bob amser yn ymwybodol ohono pan oeddwn i’n Brif Weinidog yw bod yn rhaid i chi swnio’n normal, osgoi jargon, siarad fel rhywun sy’n berson cyffredin, a sgwrsio â phobl ar eu stepen drws," meddai.
"Does dim byd gwell na sgwrsio â phobl ar eu stepen drws. Cyfathrebu yw popeth."
Ymhlith y rhanbarthau y gallai Reform UK ennill tir mae'r Cymoedd a rhannau o ganolbarth Cymru.
Fe gafodd y cynghorydd Reform UK cyntaf yng Nghymru, Stuart Keyte, ei ethol i Gyngor Torfaen ym mis Chwefror, gan ddisodli cynghorydd Llafur.
Dywedodd yr Arglwydd Jones fod Reform UK wedi cynnig "pleidlais wrth-wleidyddiaeth" i bobol yng Nghymru ond ddim "unrhyw beth y tu hwnt i hynny".
Nid yw Reform UK wedi nodi eu polisiau eto nac egluro sut y gallai chwarae rhan yn arwain Cymru pe bai'n ennill nifer fawr o bleidleisiau yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.
“Dewch i fy ngweld ar 11 Mai,” oedd ateb arweinydd y blaid Nigel Farage wrth newyddiadurwyr yn ystod cynhadledd newyddion ddiweddar yng nghanol Llundain, pan gafodd gwestiwn am ei faniffesto Cymreig.
Yn sgil y sylwadau hynny, y dyfalu ydy y bydd yn cyhoeddi ymgyrch Reform UK ar gyfer etholiadau'r Senedd ar y dyddiad hwnnw.
Mae Mr Farage wedi dweud yn y gorffennol mai etholiadau'r Senedd fydd ei "flaenoriaeth fwyaf" ac y gallai Reform UK ennill nifer fawr o seddi.