Newyddion S4C

Person wedi ei drywanu i farwolaeth yn Ffrainc

Ymosodiad Mulhouse

Mae person wedi marw ac o leiaf ddau blismon wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad â chyllell yn ninas Mulhouse yn nwyrain Ffrainc.

Fe gafodd dyn 37 oed o Algeria oedd ar restr derfysgaeth ei arestio yn y fan a'r lle.

Cafodd y ddau blismon eu hanafu yn ddifrifol un yn ei wddf, ac un yn ei frest. 

Fe geisiodd aelod o'r cyhoedd ymyrryd a chafodd ei ladd.

Roedd yr ymosodwr wedi cael gorchymyn alltudio oherwydd ei fod ar restr terfysgaeth, yn ôl yr erlynydd lleol. 

Mae'r erlynydd bellach wedi agor ymchwiliad terfysgol.

Dywedodd yr Arlywydd Emmanuel Macron nad oedd "amheuaeth mai ymosodiad terfysgol Islamaidd oedd hwn".

Ar ôl anfon ei gydymdeimlad at deulu’r dioddefwr, dywedodd Mr Macron: "Rwyf am ailadrodd penderfyniad y llywodraeth, a minnau, i barhau â’r gwaith i ddileu terfysgaeth yn ein gwlad."

Digwyddodd yr ymosodiad mewn protest i gefnogi'r Congo, ac roedd swyddogion yr heddlu yn bresennol.

"Mae arswyd wedi cipio ein dinas,” meddai maer y ddinas, Michele Lutz, ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae disgwyl i'r Gweinidog Mewnol, Bruno Retailleau, ymweld â'r lleoliad nos Sadwrn.

Llun: Sebastien Bozon / AFP

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.