Newyddion S4C

Rhybuddion yn sgil poblogrwydd gollwng nwyddau trwm ar draed

Trend droppingthingsonmyfoot

Mae trinwyr traed yn rhybuddio y gallai bobl ddioddef oes o boen, os yn cymryd rhan mewn arferiad newydd ar gyfrwng TikTok, sef gollwng nwyddau trwm yn bwrpasol ar draed.     

Mae bobl wedi rhannu fideos o'u hunain ar yr ap yn gollwng teclynnau fel peiriannau tostio neu ffriwyr aer (air fryers) ar eu traed. 

Mae eraill i'w gweld yn gollwng hwfer, jwg gwydr a bwrdd pren, gan ddadansoddi pa mor boenus yw pob teclyn. 

Mae'r hashnod #droppingthingsonmyfoot wedi ei ddefnyddio ar gannoedd o fideos. 

Mae fideo Luke Pilling o Bolton yng ngogledd Lloegr wedi ei wylio mwy na 3.8 million o weithiau, lle mae i'w weld yn neidio o amgylch ei ystafell mewn poen ar ôl gollwng, tostiwr, ffriwr aer a monitor cyfrifiadur ar ei draed.  

Yn ôl yr ymgynghorydd gwerthiant 19 oed, mae'n gwneud hynny am ei fod yn "ddoniol."  

“Rydw i wrth fy modd yn chwerthin arnaf i fy hun,” meddai. 

Ond yn ôl Dr Benjamin Bullen, darlithydd ym maes meddygaeth trin traed ym Mhrifysgol Galway, gallai'r arferiad arwain at niwed parhaol.

“Rwy'n meddwl bod yr arferiad feiral #droppingthingsonmyfeet ar TikTok yn bryderus, a byddwn yn annog pobl yn gryf i beidio cymryd rhan mewn her mor beryglus,” meddai. 

“Mae'n debygol iawn y gallai hyn arwain at anafiadau i'r traed 

“Mae TikTok yn boblogaidd, yn enwedig ymhlith bobl ifanc, ac mae'n bosibl y gallen nhw niweidio nerfau, esgyrn a chymalau eu traed yn ddifrifol.”

Wedi i fideo cyntaf Luke Pilling ddenu diddordeb, cynhyrchodd fwy o ddeunydd er mwyn "adeiladu" ei blatfform ar TikTok.   

Ond dywedodd fod fideo ohono yn gollwng dril ar ei droed wedi ei dynnu oddi ar y platfform am ei fod yn torri canllawiau Tiktok. 

Mae TikTok wedi cael cais am sylw. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.