
Pêl-droed: Cymru'n colli'n erbyn yr Eidal yn Monza
Colli oedd hanes tîm pêl-droed Cymru yn erbyn yr Eidal yn Monza nos Wener, a hynny o 1-0.
Hon oedd gêm gyntaf Cymru yn haen uchaf Cynghrair y Cenhedloedd ar ôl sicrhau dyrchafiad wedi eu llwyddiant yn yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2025.
Hon hefyd oedd canfed gêm Hayley Ladd i Gymru, ond roedd Sophie Ingle a Rachel Rowe yn absennol o achos anaf.
Yr Eidal gafodd y dechrau cryfaf gan ymosod o'r cychwyn, af fe wnaeth eu hagwedd ymosodol dalu ar ei ganfed gyda gôl ar ôl cwta pum munud o chwarae i Barbara Bonansea yn dilyn cic gornel i'r tîm cartref.
Funudau'n ddiweddarach bu'n rhaid i Olivia Clark wneud dau arbediad ar ôl ei gilydd wrth i'r pwysau gynyddu ar y Cymry.
Daeth cyfle arall i'r Eidal wedi 10 munud - gydag ergyd Cristiana Girelli yn taro'r trawst.
Bu ond y dim i'r crysau cochion daro'n ôl wedi 22 munud o chwarae - cyfle gwych gan Angharad James yn gwirio heibio i'r postyn.

Roedd Cymru'n cryfhau wrth i'r gêm ddatblygu ac ychydig wedi hanner awr o chwarae fe anelodd Jess Fishlock ergyd drawiadol dros ei phen - ond aeth y bêl yn syth i freichiau golwr yr Eidal, Laura Giuliani.
Parhau yn 1-0 oedd y sgôr ar yr hanner, ond gyda digon i gadw Rhian Wilkinson yn fodlon am berfformiad yr hanner cyntaf.
Dechreuodd Cymru'r ail hanner yn gryf gan hawlio dwy gic gosb yn fuan wedi'r ail-ddechrau - gyda Ceri Holland yn creu cur pen i amddiffynwyr yr Eidal.
Wedi 55 munud aeth enw Cristiana Girelli i lyfr y dyfarnwr am dacl flêr ar Angharad James.
Ar yr awr bu ond y dim i Gymru ildio gôl ond llwyddodd yr ymwelwyr i glirio'r bêl o'r blwch cosbi ar ôl ychydig o flerwch rhwng Jess Fishloc a Mayzee Davies.
Wedi 69 munud cafodd Jess Fishlock a Ceri Holland eu heilyddio am Lois Joel a Mared Griffiths - oedd yn chwarae am y tro cyntaf dros ei gwlad.
Funudau'n ddiweddarach roedd cyfle euraid i'r Eidal - ergyd gref gan Martina Piemonte ond arbediad gwych gan Olivia Clark.
Bu'n rhaid i Gymru ddibynnu ar ddoniau Clark unwaith eto ychydig yn ddiweddarach - Piemonte oedd yn gyfrifol am y bygythiad unwaith eto.
Gyda phum munud yn weddill roedd yn amser am ragor o eilyddio i Gymru - gyda'r pwysau'n cynyddu.
Daeth Josie Green a Charlie Estcourt i'r cae yn lle Rhiannon Roberts a Hannah Cain.
Daeth cyfle ar ôl cyfle i'r Eidal yn y munudau olaf, a'r Cymry'n byw ar eu nerfau.
Gyda Hen Wlad fy Nhadau'n atseinio o'r dorf, roedd yn berfformiad da gan y crysau cochion ar y noson - yn enwedig o gofio bod yr Eidal yn safle 13 yn rhestr detholion y byd a Chymru yn safle 30.
Dyfarnwyd pedwar munud o amser am anafiadau - ac fe gafodd yr Eidal gyfle i ddyblu'r sgôr yn yr eiliadau olaf - ond 1-0 oedd y canlyniad ar ddiwedd y chwarae.
Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Sweden yn Wrecsam nos Fawrth.