Newyddion S4C

Rhybudd oren am law yn y de a'r canolbarth

23/02/2025
Llifogydd yn Hirwaun, Rhondda Cynon Taf
Llifogydd Hirwaun

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren am law trwm yn y de a'r canolbarth o ddydd Sul tan ddydd Llun.

Yn ôl y National Grid, mae dros 270 o gartrefi heb drydan yn ardal Cross Hands, Sir Gaerfyrddin. 

Ac mae clwstwr o gartrefi heb drydan mewn ardaloedd eraill ar hyd a lled Cymru.    

Mae llifogydd ar ffyrdd yn ardal Hirwaun, yng Nghwm Cynon brynhawn Sul, ac mae lluoedd yr heddlu yn rhybuddio bobl i gymryd gofal.    

Mae adroddiadau fod llifogyddd hefyd ar ffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, yn ardaloedd Cenarth a Phencader, yn Ffairfach ger Llandeilo, a rhwng Brechfa a Nantgaredig.  

Cafodd y rhybudd ei uwchraddio o felyn i oren yn hwyr fore Sul, ac mae'r rhybudd hwn yn golygu y gallai fod perygl i fywyd.  

Mae'r rhybudd oren mewn grym rhwng 15.00 brynhawn Sul tan 06:00 fore Llun.  

Ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 15 o rybuddion oren brynhawn Sul wrth i lefel y dŵr mewn afonydd godi'n sylweddol. Mae'r rhybuddion hynny yn bennaf yn y de.  

Fe allai’r glaw achosi llifogydd mewn rhai ardaloedd gan arwain at amodau teithio heriol.

Gallai arwain hefyd at doriadau mewn cyflenwadau trydan i rai am gyfnod

Mae llifogydd cyflym yn bosibl hefyd, gan achosi perygl i fywyd.

Mae’r rhybudd hwn yn debygol o effeithio ar:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Mae rhybudd melyn am law trwm hefyd wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd rhwng 12:00 brynhawn Sul ac 08:00 fore Llun. 

Mae'r rhybudd hwnnw ar gyfer y siroedd canlynol. 

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Ceredigion
  • Sir Gaerfyrddin
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Powys
  • Sir Benfro 
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Gwynt    

Mae rhubudd melyn am wynt hefyd mewn  grym o 06:00 tan 18:00 ddydd Sul.

Fe allai arwain at amodau teithio heriol ar ffyrdd, rheilffyrdd ac i deithwyr sy'n hedfan o feysydd awyr.

Gallai arwain hefyd at doriadau mewn cyflenwadau trydan i rai am gyfnod.

Mae’r rhybudd yn berthnasol i Gymru gyfan.

Llun: Dylan Rhys

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.