Dros £270,000 yn ychwanegol i'r diwydiant llyfrau a chyhoeddi yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £272,000 ychwanegol ar gael i'r sector cyhoeddi drwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Fel rhan o gytundeb y Gyllideb gafodd ei gyhoeddi'r wythnos diwethaf, mae'r cyllid newydd ar gyfer y sector cyhoeddi yn ychwanegol at y cynnydd a gyhoeddwyd eisoes yn y gyllideb ddrafft ddiweddar ar gyfer 2025 - 2026, gan ddod â chyfanswm y cynnydd ar gyfer y flwyddyn nesaf i £392,000.
Yn ôl y llywodraeth, bydd hynny yn dod â chyllid cyffredinol y sector ar gyfer 2025 - 2026 yn ôl yn unol â lefelau 2023 - 2024.
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a fydd yn ei ddosbarthu i'r sector cyhoeddi.
Mae'r Cyngor Llyfrau hefyd wedi cael arian Llywodraeth Cymru am ei Gronfa Cynulleidfaoedd Newydd, drwy Cymru Greadigol.
Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant: "Mae'r cadarnhad hwn o gyllid sylweddol yn dangos pa mor ddifrifol ydym ni am gefnogi sector cyhoeddi Cymru fel sector creadigol sy'n cael blaenoriaeth.
"Er gwaethaf gwychder parhaus y sector creadigol, rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau sy'n cael eu hwynebu hefyd, ac rwy'n croesawu'r berthynas gref ac adeiladol sydd gan Lywodraeth Cymru â'r Cyngor Llyfrau wrth inni geisio ysgrifennu pennod newydd gadarnhaol i'r sector cyhoeddi yng Nghymru.
"Heb os, bydd ein Cyllideb Derfynol yn dod â newyddion da i'r sector ehangach ac mae'n gam cadarnhaol ymlaen y gallwn adeiladu arno gyda'n gilydd."
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol gwasg Y Lolfa wrth Newyddion S4C: " Rydym yn croesawu'r ffaith bod nawdd wedi dod i wneud lan am doriad y flwyddyn cynt, ond mae angen cefnogaeth bellach i wneud y diwydiant yn hyfyw ar gyfer y dyfodol."
Nos Iau dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai 4.4m y flwyddyn yn ychwanegol i gefnogi sectorau'r celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru, ond doedd hi ddim yn glir sut y byddai'r arian yn cael ei rannu.
Roedd croeso gofalus i'r cyhoeddiad hwnnw gan nifer o weisg.
Dywedodd Richard Tunnicliffe, sydd yn rhedeg gwasg Rily yng Nghaerffili, bod y lefel ariannu y mae’r wasg wedi’i dderbyn wedi haneru mewn termau gwirioneddol dros y 14 mlynedd diwethaf.
Ychwanegodd bod cynnydd mewn costau, ynghyd â llyfrgelloedd yn cau a gostyngiad yn nifer yr ysgolion sydd yn prynu llyfrau wedi cyfrannu at y ‘storm berffaith’ i’r diwydiant.