
Rhai o'r Cymry sydd wedi eu henwebu ar gyfer Gwobr Dewi Sant eleni
Mae enwau'r rheini sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Dewi Sant eleni wedi'u cyhoeddi.
Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod cyfraniadau arbennig gan bobl o bob rhan o Gymru mewn meysydd gwahanol.
Ymysg y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mae'r ddarlledwraig Beti George, y plismon Rhodri Jones o Heddlu Dyfed Powys a'r athro Dr Gareth Evans o Ysgol y Creuddyn.
Mae'r rheini sy'n cyrraedd y rownd derfynol ym mhob categori yn cael eu dewis gan banel annibynnol, ar sail enwebiadau gan y cyhoedd.
Caiff pobl eu henwebu ar gyfer un o'r 11 o gategorïau canlynol: Busnes; Dewrder; Pencampwr y Gymuned; Diwylliant; Pencampwr yr Amgylchedd; Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Gwobr Gwasanaeth Cyhoeddus; Chwaraeon; Gwirfoddolwr; Person Ifanc; Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan y Prif Weinidog, Eluned Morgan.

Beti George, Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Mae Beti George yn un o fawrion y byd darlledu yng Nghymru.
Dechreuodd ei gyrfa yn y 1970au fel gohebydd llawrydd ar raglen radio foreol y BBC, Bore Da. Aeth ymlaen i gyflwyno Heddiw, rhaglen deledu nosweithiol y BBC. Pan sefydlwyd S4C ym 1982, bu'n gyflwynydd rhaglen Newyddion y BBC oedd yn cael ei darlledu ar y sianel.
Roedd hi'n un o'r ychydig iawn o fenywod oedd yn cyflwyno rhaglenni newyddion yr adeg honno yng Nghymru.
Eleni dathlodd ei rhaglen radio Beti a'i Phobl ei phenblwydd yn 40 oed. Darlledwyd hi gyntaf ar BBC Radio Cymru ym 1984.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Beti yn feistr ar ei chrefft. Gyda steil cyfweld sy’n ymddangos mor ddiymdrech, mae gwir drylwyredd i'w gwaith, yn deillio o'i diddordeb dwfn a diffuant mewn pobl. Mae wedi holi enwogion a sêr ond hefyd cannoedd o unigolion sydd â stori llai hysbys, ond difyr, i'w hadrodd.
"Daw deallusrwydd a chydymdeimlad Beti i’r amlwg yn ei holl waith cyflwyno, boed ar raglenni cerddoriaeth glasurol neu Cysgu o Gwmpas, ei chyfres deithio ddiweddar gyda Huw Stephens.
"Mae Beti George wedi gosod esiampl i bob menyw ei ddilyn, am ei hirhoedledd, ei chyfraniad at ddarlledu, a heb anghofio ei gwaith pwysig i godi ymwybyddiaeth o ddementia a'i effaith ar ofalwyr a dioddefwyr.
"Mae hi wedi arwain y ffordd i ddarlledwyr Cymru."

PC Rhodri Jones, Enwebiad ar gyfer gwobr Dewrder
Cafodd Heddlu Dyfed Powys alwad gan aelod o'r cyhoedd yn dweud fod ei ddau gi wedi mynd dros ymyl Argae Caban Coch. Roedd un ci yn edrych fel ei fod wedi marw, ac wedi glanio ar silff hanner ffordd i lawr wyneb yr argae. Ond roedd y llall yn fyw ac wedi'i anafu'n ddrwg.
Roedd partner y galwr wedi dringo drosodd i geisio achub y cŵn ond wedi cwympo i lawr y llifddor gan ddioddef anafiadau sylweddol i'r wyneb a thorri ei garddwrn. Erbyn hyn roedd ganddi afael ar y ci a anafwyd, ond roedd mewn perygl o ddisgyn bron 100 troedfedd dros yr ymyl.
Y ddau heddwas Peter Evans a Rhodri Jones oedd y cyntaf i gyrraedd y safle. Gwelson nhw fod y ddynes mewn perygl o syrthio i'w marwolaeth.
Roedd y tîm Achub Mynydd 45 munud i ffwrdd a dim ond trwy wthio ei throed yn erbyn carreg oedd yn sticio allan yr oedd y ddynes yn atal ei hun rhag syrthio i lawr wyneb llithrig yr argae.
Gwelodd PC Evans a PC Jones bod llwybr dianc posibl. Dyma nhw’n chwalu trwy ddrws dur i gael mynediad i stafell o fewn yr argae gydag ardal i’r dŵr orlifo.
Gostyngodd PC Jones ei hun i lawr i'r ardal gorlifo ac at ymyl y llifddorau, heb unrhyw reiliau llaw i afael ynddynt. Trwy daflu rhaff achub o'r safle hwnnw, llwyddodd PC Jones i dynnu'r ddynes a'i chi yn ôl i leoliad diogel, gan achub eu bywyd.

Dr Gareth Evans, Enwebiad ar gyfer gwobr Gwasanaethau Cyhoeddus
Dr Gareth Evans yw Pennaeth Mathemateg Ysgol y Creuddyn, Llandudno. Mae Dr Evans wedi mynd ati i wneud mathemateg yn hygyrch yn y Gymraeg a'r Saesneg i ddysgwyr, gyda'i arwyddair 'Mae Pawb yn Cyfri'.
Ar ôl nodi prinder yr adnoddau mathemateg cyfrwng Cymraeg, creodd Dr Evans wefan ddwyieithog sy'n rhoi cefnogaeth addysgol o ansawdd uchel i ddysgwyr ledled Cymru, nid dim ond disgyblion y Creuddyn.
Mae ei fideos YouTube a TikTok wedi cael eu gwylio dros 1.5 miliwn o weithiau, gan gefnogi disgyblion 11-18 oed. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel arloeswr yn ei broffesiwn; athro mathemateg rhagorol sy’n angerddol am ei bwnc ac yn ymdrechu i gynnig cyfle cyfartal i bob disgybl, waeth beth fo'i gefndir.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n dylanwadu ar addysg pobl ifanc mewn ffordd drawsnewidiol yn lleol ac yn genedlaethol, ac mae bob amser yn chwilio am syniadau newydd i ysgogi diddordeb disgyblion o bob gallu a’u hysbrydoli i lwyddo.
"Mae'n gweld ei hun fel dysgwr yn gyntaf ac fel athro yn ail, ac mae bob amser yn mynd gam ymhellach i'w ddisgyblion."
Yr enwebiadau i gyd
Dyma'r deuddegfed tro i Wobrau blynyddol Dewi Sant gael eu dyfarnu, ar ôl i’r rhai cyntaf gael eu cyflwyno yn 2014.
Bydd yr enillwyr yn derbyn tlws arbennig mewn seremoni wobrwyo yn y Senedd ddydd Iau 27 Mawrth.
Dyma'r rhestr lawn o deilyngwyr:
Gwobr Dewrder
Clwb Rygbi Rhydyfelin, Trefforest
Justin Biggs, Penarth
PC Rhodri Jones, Heddlu Dyfed Powys
Gwobr Busnes
Bad Wolf Ltd, Diwydiant Creadigol
Elite Supported Employment, Menter Gymdeithasol
Lucy Cohen, Cyfrifydd
Arwr Cymunedol
Lads and Dads, Grŵp cymorth lles meddyliol
Paul Bromwell, Cymorth i gyn-filwyr
Mosg Sgeti, Canolfan gymunedol
Diwylliant
David Hurn, Ffotograffydd
Beti George, Darlledwraig
Hynt, Cynllun mynediad i'r celfyddydau
Ceidwad yr Amgylchedd
Tîm Adfer Mawndir Llyn Efyrnwy, Tîm amgylcheddol
Peter Stanley, Amgylcheddwr
Clwb Ieuenctid Fferm Gymunedol Abertawe, Gwirfoddolwyr
Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Dr Adam Charlton a'r Tîm, Arloeswyr
Immunoserv, Arloeswyr
Inderal Singh, Arloeswr
Gwasanaethu’r Cyhoedd
Dr Ceri Lynch, Ymgynghorydd
Dr Gareth Evans, Ysgol y Creuddyn
Patrick Watts, Offthalmoleg pediatrig
Tîm Ysbrydoli i Gyflawni, Coleg Merthyr Tudful
Chwaraeon
Elinor Barker MBE, Olympiad
Emma Finucane MBE, Olympiad
James Ball a Steff Lloyd, Olympians
Gwirfoddoli
Andrew Thomas, Ymgyrchydd elusen
Beth Baldwin, Ymgyrchwr
Tîm Achub Mynydd Llanberis, Gwasanaethau brys gwirfoddol
Person Ifanc
Dylan Buller, Gweithiwr ieuenctid
Marieme a Ndeye Ndiaye, Efeilliaid ysbrydoledig
Olly Williams, Gofalwr ifanc