Dynes oedd wedi honni mai hi oedd Madeleine McCann yn ymddangos o flaen llys
Mae dynes oedd wedi honni mai hi oedd Madeleine McCann wedi cael ei chadw yn y ddalfa ar ôl ymddangos o flaen llys wedi ei chyhuddo o stelcian.
Mae wedi ei chyhuddo o stelcian rhieni a brodyr a chwiorydd y ferch a ddiflannodd ym Mhortiwgal ym mis Mai 2007 drwy fynd i gartref y teulu, gadael negeseuon llais ac anfon negeseuon.
Cafodd Julia Wandel, 23 oed, ei harestio ym Maes Awyr Bryste ddydd Mercher, ynghyd â dynes 60 oed o Gaerdydd.
Mae'r ddynes o Gaerdydd a gafodd ei harestio ar yr un pryd ar amheuaeth o stelcian wedi ei rhyddhau, meddai’r heddlu.
Mae Julia Wandel, sy’n wreiddiol o Wlad Pwyl, wedi’i chyhuddo o bedair trosedd stelcian rhwng 3 Ionawr 2024 a 15 Chwefror 2025.
Mae dau o'r achosion yn ymwneud â throseddau honedig rhwng 2 Mai, y llynedd a 15 Chwefror eleni.
Mae Wandel hefyd wedi’i chyhuddo o gyfrif pellach o stelcian rhwng 3 Ionawr a 21 Ebrill y llynedd.
Mae’r pedwerydd cyhuddiad yn ymwneud â throseddau honedig rhwng 27 Tachwedd a 29 Rhagfyr y llynedd.
Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Caerlŷr ddydd Gwener, dywedodd mai Julia Wandel oedd ei henw llawn “yn ôl dogfennau’r llys”ac fe gadarnhaodd ei dyddiad geni.
Cafodd ei chadw yn y ddalfa i ymddangos ar gyfer gwrandawiad ple yn Llys y Goron Caerlŷr ar Ebrill 7.