Carcharu dyn am anafu dynes yn ddifrifol mewn anhrefn treisgar
Mae dyn 26 oed wedi'i garcharu am gymryd rhan mewn anhrefn treisgar yn Wrecsam a wnaeth achosi i ddynes gael ei hanafu yn ddifrifol.
Ymddangosodd Reef Byfield o Ben y Wern, Rhosllannerchrugog, yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.
Roedd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o glwyfo gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol difrifol.
Mae wedi derbyn dedfryd o 16 mis o garchar.
Digwyddodd yr anhrefn yn ardal Wern Las o Rosllannerchrugog ar 21 Medi, 2023, lle'r oedd hyd at 50 o bobl wedi ymgynnull yn y stryd.
Yn ystod y digwyddiad, gafaelodd Byfield mewn olwyn beic a'i thaflu ar draws y stryd, gan daro dynes yn anymwybodol i'r llawr ac anafu ei phen.
Roedd wedi bwriadu taro'r heddlu.
O ganlyniad i'r anhrefn, ymosodwyd ac anafwyd tri phlismon, a chafodd dau arall eu hanafu.
'Digwyddiad ysgytwol'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Mark Griffiths: “Roedd hwn yn ddigwyddiad ysgytwol lle’r oedd nifer fach o swyddogion yn wynebu torf hynod o elyniaethus wrth geisio cyflawni eu dyletswyddau cyfreithlon.
“Roedd y trais wedi eu gadael yn poeni am eu diogelwch.
“Arweiniodd cyfraniad Byfield i’r anhrefn at ddynes yn cael ei tharo i’r llawr a chael anafiadau i’w phen, ac fe allai hefyd fod wedi anafu un o’r swyddogion yn ddifrifol pe bai wedi eu taro.
“Roedd ei ymddygiad y diwrnod hwnnw yn annerbyniol, ac rwy’n croesawu’r ddedfryd a roddwyd iddo heddiw.
Ychwanegodd: “Rwy’n gobeithio y bydd yn wers i unrhyw un sy’n ddigon ffôl i ystyried cymryd rhan yn y math yma o anrhefn yn y dyfodol.”