Newyddion S4C

'Dyddiau difyr iawn': Atgofion Terry Phipps o Champion FM

Terry Phipps
Terry Phipps

Ar ddiwrnod olaf darlledu rhaglenni Cymraeg ar orsaf Capital Cymru, mae'r cyn-gyflwynydd radio, Terry Phipps, wedi bod yn hel atgofion o’i gyfnod fel un o gyflwynwyr radio Champion FM.

Fe wnaeth Global Radio gyhoeddi’n ddiweddar y bydd holl raglenni lleol a rhanbarthol gorsafoedd Heart, Smooth a Capital, gan gynnwys yr holl raglenni Cymraeg, yn dod i ben.

Bydd rhaglen olaf Kev Bach yn cael ei darlledu rhwng 14:00 a 19:00 ddydd Gwener, a hon fydd y rhaglen Gymraeg olaf i gael ei chlywed ar y gwasanaeth.

Dechreuodd gorsaf radio Champion FM, sy’n cael ei alw’n Capital bellach, yn Rhagfyr 1998 mewn stiwdio ym Mharc Menai, Bangor.

Y ddau gyflwynydd hunangyflogedig bryd hynny oedd Kevin 'Kev Bach' Williams a Terry Phipps.

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd yr holl raglenni Cymraeg yn dod i ben, dywedodd Terry Phipps wrth Newyddion S4C ei fod yn “golled fawr”, a’i fod yn “beth mawr iawn i ddigwydd i fiwsig Cymraeg ac i’r iaith”.

Mae’r newidiadau yn dilyn cyflwyno’r Ddeddf Cyfryngau newydd fis Hydref y llynedd, sy’n dileu unrhyw ofynion am fformatau pob gorsaf.

Golyga hyn nad oes rhaid i’r orsaf Global Radio gynnig gwasanaethau Cymraeg, ac felly bydd Capital Cymru yn rhoi’r gorau i raglenni Cymraeg brynhawn ddydd Gwener.

Cyn troi'n Heart Cymru yn 2009 a Capital Cymru yn 2014, roedd Champion FM yn orsaf radio leol boblogaidd, a oedd yn darlledu o stiwdio ym Mangor i wrandawyr ym Môn a Gwynedd.

“Un o’r pethau brafia”, yn ôl Terry, oedd y ffaith “bod y drws ar agor drwy’r amser” yn y stiwdio.

“Roedd pobl yn mwynhau dod i’n gweld ni a dechrau sgwrs” meddai.

Image
Champion FM

Anti Doris

Un o’r rheiny oedd yn manteisio ar ddrws agored y stiwdio oedd Anti Doris, a oedd yn “ffan mawr” o raglen Terry a Champion FM.

Roedd hi’n dod yn aml o Bodedern efo “llond carrier bag o fisgedi a diodydd” i’r swyddfa ym Mharc Menai, Bangor.

Cofiodd Terry yn ôl at un adeg pan ddaeth hi draw i’r stiwdio, a’r bag llawn danteithion yn ei dwylo, ac eistedd gyferbyn ag o.

Dyma Terry’n egluro pan fydd y golau coch ymlaen, bod angen i Anti Doris fod yn ddistaw, gan mai hwnnw oedd y golau a oedd yn dangos ei fod ar yr awyr.

“Pan fydd y golau ymlaen, peidiwch â gwneud sŵn,” pwysleisiodd.

Gorffennodd y gân a daeth y golau ymlaen, a chyn i Terry gael y cyfle i ddweud dim, gofynnodd Anti Dorris “y golau yna ia?”.

Brechdan bacon!

Doedd hi ddim yn anghyffredin i neiniau a theidiau neu rieni ddod â’u plant i’r stiwdio yn ôl Terry, ac roedd hynny’n beth “braf iawn” meddai.

Bu’n gyfrifol am y rhaglen ddyddiol rhwng 14.00 tan 18.00 yn ogystal â rhaglen fore bob dydd Sadwrn o 06.00 tan 08.00 am gyfnod, a’r drws, fel bob amser, ar agor.

O gwmpas saith o’r gloch bob bore dydd Sadwrn, roedd cwpl o Gaernarfon yn dod i gael sgwrs ac yn dod a brechdan cig-moch iddo fo - “bob wythnos!”.

Image
Gorsaf Y Gwersyll
Bydd stwidio yng Ngwersyllt, ger Wrecsam yn cau ei drysau ddydd Gwener 

Gorsaf leol

Yn ôl Terry Phipps, roedd llawer o bobl yn gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg am y tro cyntaf ar Champion FM.

Roedden nhw’n troi at yr orsaf am ei bod yn “orsaf leol go iawn”.

“Roedden ni’n nabod pobl yr ardal, gwybod beth oedd yn mynd ymlaen… a doedden ni ddim yn eistedd yn y stiwdio drwy’r dydd bob dydd, roedden ni’n mynd allan i’r gymuned os oedd ‘na rhywbeth yn digwydd, a chymryd rhan a chyfrannu.”

“Roedd hi’n amser braf iawn” meddai wrth fyfyrio ar y cyfnod.

Dywedodd bod nifer o artistiaid wedi dweud bod yr orsaf yn help mawr iddyn nhw i ennyn gwrandawyr newydd.

“Doedd ‘na rai pobl heb glywed am Celt ac Anweledig a Caban,” meddai, “ond wrth eu clywed nhw ar Champion, roedden nhw’n dod yn ffans ac wedyn yn mynychu eu gigs nhw ynte”.

Apelio i bawb

Gwasanaeth radio a oedd yn darlledu i Ynys Môn a Gwynedd oedd Champion FM, ac roedd hi’n orsaf oedd yn “apelio at bawb o bob oed” meddai.

“Roedd pobl yn licio gwrando ar rywun oedd yn siarad fel nhw, ac yn siarad am bethau’r oedden nhw’n gwybod amdanyn nhw.

“Dyddiau difyr go iawn,” meddai, “ond pan ‘naeth y cwmnïau mawr ‘ma gymryd drosodd, mi oeddan nhw eisiau newid petha’."

Dywedodd nad oedd gan y perchnogion o “berfeddion Lloegr” deimladau at y Gymraeg o gwbl.

“Yn ein dyddiau ni,” meddai, “y ffigyrau gwrando oedd y peth pwysicaf gan y bobl oedd pia’r gorsafoedd, ond erbyn rŵan, mae wedi mynd yn fater o bres, faint maen nhw’n ei gael o hysbysebion… dydi ffigyrau gwrando yn golygu dim.

“Mae’n bechod mawr,” meddai.

Roedd rhaglen Terry yn un o’r ugain uchaf drwy’r Deyrnas Unedig am gyfnod, gyda bron i 3500 yn gwrando bob awr dros gyfartaledd o flwyddyn.

Felly, roedd yn siomedig iawn wrth glywed nad oedd yn mynd i gael parhau gyda’i raglen, a hynny gan “ddyn chwech ar hugain oed o berfeddion Lloegr”.

“Dwi’n meddwl ei fod o’n bwysig cael gorsafoedd lleol fel hyn – mae cynulleidfa Champion allan yna yn chwilio am yr un math o beth, ond dydyn nhw ddim yn ei gael o,” meddai.

Llais Kev Bach oedd y cyntaf i gael ei glywed ar yr orsaf radio yn ôl yn Rhagfyr 1998, a’i lais o fydd yr olaf i’w glywed yn ei raglen brynhawn dydd Gwener, pan fydd y golau coch yn diffodd am y tro olaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.