‘Ysgytwol ac annerbyniol’: Marwolaethau canser 50% yn uwch yn ardaloedd difreintiedig Cymru
Mae cyfraddau marwolaethau canser 50% yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn ôl ymchwil newydd gan Cancer Research UK.
Mae tua 1,400 o farwolaethau canser ychwanegol yng Nghymru bob blwyddyn yn gysylltiedig ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, meddai adroddiad yr elusen.
Mae Cancer Research UK wedi dweud eu bod nhw’n credu bod pobl o ardaloedd difreintiedig yn cael diagnosis yn rhy hwyr.
Mae pobl mewn ardaloedd difreintiedig hefyd yn fwy tebygol o ysmygu, bod yn ordew, ac yn llai tebygol o gymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio canser, yn ôl adroddiad newydd.
Dywedodd Simon Scheeres, Rheolwr Materion Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK: “Ni ddylai lle rydych chi’n byw gynyddu eich risg o farw o’r afiechyd dinistriol hwn.
“Ysmygu yw prif achos canser yr ysgyfaint o hyd. Mae’n glefyd sydd, yn aml, yn cael ei ddiagnosio’n hwyr pan fod opsiynau triniaeth yn fwy cyfyngedig.
“Un o’r ffyrdd gallwn atal canser yr ysgyfaint yw atal pobl rhag dechrau ysmygu yn y lle cyntaf.”
Mae'r elusen wedi amcangyfrif y byddai dechrau sgrinio’r ysgyfaint yng Nghymru yn arwain at ddiagnosio tua 240 o achosion ychwanegol blynyddol o ganser yn gynt.
'Modd eu hosgoi'
Roedd ymchwil yr elusen yn awgrymu fod tua 28,400 o farwolaethau canser bob blwyddyn ar draws y DU yn gysylltiedig â phobl yn byw mewn amgylchiadau difreintiedig.
Roedd hynny’n cyfateb i 78 o farwolaethau ychwanegol y dydd, a mwy na tri o bob 30 o'r holl farwolaethau o ganser.
“Mae’r rhain yn farwolaethau ychwanegol a allai fod wedi eu hosgoi pe bai'r wlad gyfan gyda’r un raddfa marwolaethau sydd yn yr ardaloedd lleiafrif difreintiedig ym mhob cenedl,” medden nhw.
Dywedodd Dr Ian Walker, cyfarwyddwr gweithredol polisi a gwybodaeth Cancer Research UK "na ddylai neb fod mewn mwy o berygl o farw o’r afiechyd dinistriol hwn dim ond oherwydd ble maen nhw’n byw".
“Mae’r ffigurau hyn yn ysgytwol ac yn annerbyniol - ond mae modd eu hosgoi.”
Ychwanegodd: “Mae pobl o ardaloedd mwy difreintiedig yn cael diagnosis yn rhy hwyr.
“Mae gwella mynediad at wasanaethau’r GIG yn hanfodol, fel bod y rhai sy’n ceisio cymorth yn cael y gofal y maent yn ei haeddu.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldebab iechyd ac i wella gwasanaethau a chyfraddau goroesi canser.
“Rydym yn cydnabod y cyswllt rhwng lefelau o amddifadedd i ganlyniadau iechyd, ac rydym yn buddsoddi mewn rhaglenni i helpu teuluoedd i fyw bywydau mwy iach a heini.
“Erbyn hyn, rydym wedi dod mewn â mesurau i ddod â Chymru yn ddi-fwg erbyn 2030, sy’n cynnwys cyfyngiadau ysmygu mewn lleoedd chwarae, ysgolion a meysydd ysbytai ac rydym wedi cryfhau ein gwasanaethau sy’n cefnogi pobl i roi’r gorau i ysmygu.
“Yn ogystal, rydym wedi comisiynu’r dechrau ar waith sgôpio manwl ar gyfer rhaglen genedlaethol ar sgrinio’r ysgyfaint."