Newyddion S4C

Troi cerrig beddi yn 'waith celf’ mewn hen eglwys yn Abertawe

cerrig beddi Abertawe

Bydd cerrig beddi mewn hen eglwys yn Abertawe yn cael eu pentyrru fel rhan o gynlluniau i drawsnewid yr ardal allanol i fod yn ardd gymunedol.

Mae cynlluniau’r elusen Matthew’s House i drawsnewid ardal allanol eglwys St Matthews yn Abertawe wedi eu cymeradwyo gan y Cyngor.

Maen nhw'n bwriadu symud cerrig beddi a’u pentyrru i edrych fel cerfluniau ar draws yr ardd newydd.

Bydd arysgrifau o’r enwau o bob carreg fedd sy’n cael eu cadw yng nghofnodion yr eglwys yn cael eu hychwanegu at un o’r waliau er mwyn ceisio cynyddu bioamrywiaeth yno.

Maen nhw hefyd yn bwriadu rhoi ardaloedd eistedd newydd yno er mwyn annog mwy o bobl o’r gymuned i ddefnyddio’r ardal fel gardd gymunedol.

Mae o leiaf 225 o gerrig beddau yn y fynwent yn ôl y cyngor, a bydd cornel fechan yn cadw’r rhai mwyaf arwyddocaol ohonyn nhw.

Mae’r elusen Matthew’s House yn cynnig cymorth i bobl sy’n helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl, problemau cyffuriau a phobl digartref.

Dywedodd Thom Lynch, arweinydd prosiect yr elusen, bod y tu allan i’r eglwys wedi edrych yn flêr ers rhai blynyddoedd bellach.

“Roedd rhai cerrig beddi wedi disgyn, a chawsom sawl damwain a phobl yn baglu drostynt.” meddai.

Bydd dros 600 o enwau yn cael eu hysgythru ar y waliau ar ôl ymdrech sylweddol i gysylltu â pherthnasau'r rhai sydd wedi eu claddu yno yn ôl adroddiad gan Matthew’s House.

Ychwanegodd bod ‘cefnogaeth helaeth’ wedi bod i’r prosiect gan y bobl a ymatebodd.

Dywedodd adroddiad sy’n asesu’r effaith ar y dreftadaeth yno, y byddai pentyrru’r cerrig beddi i fod yn gerfluniau yn coffáu’r bobl mewn “modd sy’n drawiadol yn weledol ac yn barchus”.

Ychwanegodd y byddent yn “weithiau celf ystyrlon”.

Mae nifer o amodau ar gyfer y cynllunio, gan gynnwys dim uchelseinyddion na cherddoriaeth o’r fath yn yr ardd, a bod rhaid i swyddogion cadwraeth gael mynediad pe bai nodweddion hanesyddol yn cael eu datgelu yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.