Newyddion S4C

Cyngor Sir Gâr yn cyhoeddi casgliadau adolygiad i safle Ysgol Heol Goffa Llanelli

Heol Goffa

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi adolygiad o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn Llanelli - gyda chynigion am yr hyn all ddigwydd i Ysgol Heol Goffa yn y dref yn ganolog i'r gwaith ymchwil.

Mae rhieni'r disgyblion yn yr ysgol sydd ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi galw am ysgol newydd ers tro - gyda'r cyngor yn flaenorol wedi dadlau nad oedd hynny'n bosib o achos y gost.

Cafodd David Davies, cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg, ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol.

Mae'r adolygiad yn cynnig chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol. Yr opsiynau hyn yw:

  • Adnewyddu'r ysgol bresennol
  • Adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â'r un nifer o leoedd (120 o ddisgyblion) ond sydd â dyluniad mwy cost-effeithiol
  • Adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â mwy o leoedd (150 o ddisgyblion)
  • Adolygu a diwygio'r cynnig cyfredol a'i ailddylunio i gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion â chyflyrau sbectrwm awtistig (CSA) sydd â mwy o leoedd (250 o ddisgyblion)
  • Datblygu cynigion newydd i adeiladu un Ganolfan Arbenigol gynradd ac un Ganolfan Arbenigol uwchradd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl) ac anhwylder sbectrwm awtistig
  • Adolygu a diwygio'r cynigion cyfredol i adeiladu ysgol arbennig newydd sydd â mwy o leoedd (Opsiwn 3) a datblygu cynigion newydd i adeiladu un Ganolfan Arbenigol gynradd ac un Ganolfan Arbenigol uwchradd ar gyfer disgyblion â chyflyrau sbectrwm awtistig (CSA)

Mae’r Awdurdod Lleol wedi gofyn am i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno erbyn 13 Mawrth 2025. Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor Sir er mwyn gwneud penderfyniad ffurfiol ar yr argymhellion cyn gwyliau'r haf eleni.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price: "Rydym yn falch o gael adroddiad David Davies am y ddarpariaeth ADY yn Llanelli ac yn diolch iddo am ei waith ar y mater hwn.

“Rydym yn cydnabod y chwe opsiwn posib sydd yn ei adroddiad, ac mae'n bwysig dros y tair wythnos nesaf ein bod yn ymgysylltu â'r holl randdeiliaid i gasglu unrhyw adborth pellach.

“Mae'n rhaid i mi bwysleisio nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto. Fel Cabinet, rydym yn aros am adroddiad terfynol yn dilyn adborth pellach, er mwyn i ni benderfynu ar y camau nesaf gan roi'r ystyriaeth bennaf i anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa a'r holl ddisgyblion ag ADY.”

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa: "Rydym yn croesawu adroddiad yr adolygiad ac yn edrych ymlaen i barhau gyda’n deialog adeiladol gyda’r awdurdod lleol er mwyn deilliant sy’n deg a chytbwys.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.