Cyhuddo cyn-arweinydd Reform yng Nghymru o droseddau llwgrwobrwyo
Mae cyn-aelod o Senedd Cymru wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau llwgrwobrwyo wedi ymchwiliad gan Heddlu'r Met.
Mae Nathan Gill, cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, wedi'i gyhuddo o un achos o gynllwynio i lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Cyfraith Droseddol 1977, ac o wyth achos o lwgrwobrwyo o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.
Fe gafodd yr ymchwiliad ei gynnal gan adran gwrthderfysgaeth Heddlu'r Met.
Dywedodd y llu ei fod eisoes wedi cael ei gyfweld ar 3 Mawrth 2022, mewn cysylltiad â honiadau o lwgrwobrwyo.
Roedd Mr Gill, 51, yn gyn-Aelod Seneddol Ewropeaidd tan 2020 ac fe wnaeth gynrychioli gogledd Cymru yn y Senedd rhwng 2016 a 2021.
Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP am y tro cyntaf yn 2014 ac ymunodd â'r Cynulliad Cenedlaethol, fel y'i gelwid bryd hynny, yn 2016.
Roedd yn arweinydd UKIP dros Gymru a bu’n annibynnol am gyfnod byr cyn ymuno â Phlaid Brexit yn 2019.
Aeth ymlaen wedyn i i arwain ymgyrch Reform UK yn Etholiad Senedd Cymru yn 2021.