Gyrrwr trên wedi marw yn Sbaen wedi damwain arall

Y trên yn Gelida

Mae gyrrwr trên wedi marw a phump o bobl wedi eu hanafu yn ddifrifol ar ôl i drên ddod oddi ar y cledrau ger Barcelona.

Daw hyn ddyddiau wedi gwrthdrawiad rhwng dau drên yn ne Sbaen.

Y gred yw bod y trên nos Fawrth wedi taro wal a bod y wal wedi disgyn ar y traciau rhwng Gelida a Sant Sadurní.

Mae'r holl deithwyr wedi gadael y trên ac mae o leiaf 37 o bobl wedi eu hanafu.

Yn ôl y gwasanaethau brys mae pump o'r rhai mewn cyflwr difrifol, chwech mewn cyflwr llai difrifol a 26 gydag anafiadau 'cymedrol'.

Roedd 11 o ambiwlansys yn Gelida er mwyn trin y rhai oedd wedi brifo meddai'r gwasanaethau brys. 

Mae rhai o'r bobl sydd wedi eu hanafu wedi eu hanfon i ysbytai gerllaw yn Moisès Broggi, Bellvitge, a Vila Franca.

Mae stormydd trwm wedi bod yng ngogledd ddwyrain Sbaen gydag ardaloedd ger yr arfordir yn nwyrain a gogledd orllewin y wlad ar eu gwyliadwriaeth o achos y tywydd.

Fe wnaeth trên arall hefyd ddod oddi ar y cledrau nos Fawrth ar y rhwydwaith cymudo Barcelona.

Mewn datganiad fe ddywedodd gweithredwr rhwydwaith trenau Sbaen, Adif bod carreg wedi taro echel y trên wedi'r storm. Roedd y trên yn teithio rhwng Blanes a Maçanet-Massanes.

Does yna ddim adroddiadau bod unrhyw un wedi cael eu brifo. 

Llun: Zuma Press Wire via Reuters 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.