Prifysgolion y wlad i elwa o achos ail dymor Donald Trump yn Arlywydd?
Fe allai prifysgolion Prydain elwa o ganlyniad i ail dymor Donald Trump fel arlywydd yr Unol Daleithiau, yn ôl adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi.
Mae’n bosibl y bydd addysg yr Unol Daleithiau “yn colli rhywfaint o’i lewyrch i fyfyrwyr rhyngwladol” a gallai prifysgolion Prydain weld cynnydd yn nifer y myfyrwyr tramor oherwydd y newid mewn arweinyddiaeth yn y Tŷ Gwyn, yn ôl y Cyngor Prydeinig.
Fe allai agweddau mwy cyfyng yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia arwain at y gwledydd hynny yn troi cefn ar ddarpar fyfyrwyr rhyngwladol, a fyddai o ganlyniad yn darparu “pwll recriwtio parod” i brifysgolion y DU, meddai ymchwilwyr.
Mae arweinwyr prifysgolion yn y DU wedi rhybuddio am bryderon ariannol sylweddol o ganlyniad i gwymp yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol a rhewi ffioedd dysgu sy’n cael eu talu gan fyfyrwyr o'r DU.
'Newyddion da'
Dywedodd adroddiad y Cyngor Prydeinig: “Er mai ansicrwydd yw’r unig sicrwydd o arddull lywodraethol Trump, fe allai ei ddychweliad fod yn newyddion da i sector y DU yn Nwyrain Asia ac mewn mannau eraill.
“Ynghyd â mwy o gyfyngiadau yn Awstralia a Chanada ar fyfyrwyr rhyngwladol, mae’n debygol y bydd y DU yn elwa ar y myfyriwr a fyddai fel arall wedi astudio mewn gwlad fawr arall sy’n siarad Saesneg ond sydd bellach o bosibl yn ystyried y DU fel y mwyaf croesawgar yn eu plith.”
Amlygodd yr adroddiad fod ffenomen debyg wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau yn ystod tymor cyntaf Mr Trump yn ei swydd, pan ddisgynnodd nifer y cofrestriadau rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau yn flynyddol bob blwyddyn.
Ar drothwy’r pandemig, roedd mwy na 50,000 yn llai o fyfyrwyr rhyngwladol yn yr Unol Daleithiau na phan ddaeth yr Arlywydd Trump i'w swydd, meddai'r adroddiad.
Cofrestru
Mae ymchwilwyr yn rhagweld na fydd pob rhanbarth yn cael ei effeithio'n gyfartal.
Yn nhymor cyntaf Mr Trump, roedd y gostyngiadau mewn cofrestriadau ar ei uchaf mewn myfyrwyr o’r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica, Gogledd America a Chanol America, ac Ewrop, yn ôl yr adroddiad.
Roedd ffigurau a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf yn dangos bod nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n gwneud cais am le ar gwrs addysg uwch israddedig yn y DU drwy Ucas wedi codi 2.7% eleni.
Yn gyffredinol, mae cyfanswm yr ymgeiswyr o’r Unol Daleithiau wedi codi 11.7% i 6,680 ers mis Ionawr y llynedd, yn ôl y gwasanaeth derbyn myfyrwyr.
Daeth adroddiad y Cyngor Prydeinig i’r casgliad y bydd agweddau cyfyng tuag at fyfyrwyr mewn gwledydd Saesneg erailkl eu hiaith yn fuddiol i’r DU.