Newyddion S4C

Y Gyllideb: Cyhoeddi mwy o arian i rai o siroedd gwledig Cymru

Mark Drakeford yn y Senedd
Mark Drakeford yn y Senedd

Bydd mwy o arian i rai o siroedd gwledig Cymru wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cytundeb ar eu cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae’r cytundeb gyda Jane Dodds AS, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Senedd, yn golygu y bydd pob cyngor yn gweld cynnydd o leiaf 3.8% i’w cyllidebau o ganlyniad i'r gyllideb.

Mae hynny’n golygu y bydd naw awdurdod lleol yn gweld cynnydd ychwanegol - Sir Fynwy, Powys, Gwynedd, Bro Morgannwg, Sir y Fflint, Sir Benfro, Ynys Môn, Ceredigion a Chonwy.

Bydd hynny’n costio £8.24m.

Mae yna hefyd £15m i ariannu cynllun peilot a fydd yn golygu bod pobl ifanc 21 oed ac iau yn talu £1 yn unig am docyn bws sengl yng Nghymru.

Bydd gofal cymdeithasol, gofal plant a chynghorau lleol yn elwa ar fwy na £100m o gyllid ychwanegol sydd wedi’i sicrhau drwy gytundeb y gyllideb, meddai Llywodraeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford bod y cytundeb “yn dangos beth allwn ni gyflawni pan fydd Llywodraeth Cymru ac Aelodau o’r Senedd yn gweithio’n adeiladol gyda’i gilydd”.

“Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth mawr i gymunedau ym mhob cwr o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.”

Mae’r cytundeb ar y gyllideb hefyd yn cynnwys:

·  Cymorth ychwanegol i greu cynllun gwerth £120m i’r awdurdodau lleol ar gyfer trwsio ffyrdd a phalmentydd.

·  Cyllid i adfer y pumed gwasanaeth trên ar reilffordd Calon Cymru.

·  £500,000 o gyllid cyfalaf i wella toiledau ar brif ffyrdd ar draws Cymru.

·  £5m yn ychwanegol i fynd i’r afael â llygredd dŵr mewn afonydd a moroedd.

·  £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal plant

·  £30m yn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol

·  £5m i wella meysydd chwarae a chyfleusterau chwarae i blant.

·  £5m yn ychwanegol i gefnogi canolfannau hamdden i arbed ynni.

Dywedodd Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ei fod yn “gam cadarnhaol tuag at wneud Cymru yn wlad decach a mwy llewyrchus - yn union fel rydw i am iddi fod”. 

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni wedi sicrhau’r arian sydd ei angen i gyflawni blaenoriaethau allweddol fy mhlaid o wella gofal cymdeithasol, cynyddu gofal plant o safon, mynd i’r afael â llygredd dŵr, gwella’r ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus a diogelu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cael eu rhedeg gan y cynghorau.”

Pleidlais derfynol

Fel rhan o'r gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Rhagfyr, bydd gofal iechyd yng Nghymru yn derbyn cannoedd o filiynau o bunnoedd yn fwy i fynd i'r afael a'r amseroedd aros uchel erioed.

Ond mae yna bryderon am effaith y gyllideb ar y celfyddydau wedi toriadau mewn blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Equity, yr undeb sy’n cynrychioli perfformwyr, pan gafodd y gyllideb ddrafft ei datgelu fod £1m ychwanegol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru yn "warthus".

Fe enillodd Llywodraeth Cymru bleidlais gyntaf y cynlluniau gwario yn y Senedd ddechrau’r mis, a hynny yn absenoldeb dau aelod Ceidwadol o’r Senedd.

Bryd hynny fe ddywedodd Mark Drakeford fod y gyllideb ddrafft yn darparu £1.5bn yn ychwanegol, gyda phob adran o Lywodraeth Cymru yn derbyn cynnydd mewn cyllid cyfalaf a refeniw.

Mae disgwyl y bleidlais derfynol ar 4 Mawrth.

Wrth ymateb i'r gyllideb, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Gyllid a Diwylliant, Heledd Fychan AS:

“Bydd Plaid Cymru wastad yn ceisio gweithio gydag eraill i ddod o hyd i dir cyffredin lle bo hynny'n bosib. Fodd bynnag, mae'r Gyllideb hon yn methu mynd i'r afael yn ddigonol â'r heriau sy'n ein hwynebu fel cenedl - ac felly allwn ni ddim ei chefnogi.

“Mae elfennau o'r Gyllideb i'w croesawu ond ni ellir anwybyddu’r bylchau enfawr, a slogan wag ydi’r bartneriaeth mewn grym' fel y'i elwir rhwng Llywodraethau Llafur Cymru a'r DU – dim arian HS2, dim fformiwla ariannu teg a dim datganoli Ystad y Goron.

“O lywodraeth leol i'r gwasanaeth iechyd, mae angen llywodraeth fydd â syniadau ffres er mwyn gwario’r gyllideb yn well, fydd ddim yn ildio wrth fynnu chwarae teg i Gymru - dyna addewid Plaid Cymru i bobl Cymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.