Dinbych: Dynes yn ei 80au mewn cyflwr difrifol ar ôl digwyddiad mewn maes parcio
Mae dynes yn ei 80au mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad yn ymwneud â Land Rover mewn maes parcio yn Ninbych.
Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n apelio am wybodaeth am yr hyn a ddigwyddodd i’r ddynes am 10.00 ddydd Mercher ym maes parcio Meddygfa Brynffynnon, Stryd y Bont yn y dref.
Fe wnaeth y ddynes ddioddef “anafiadau sylweddol” ac fe gafodd ei chludo i’r ysbyty mewn ambiwlans ac “yn parhau mewn cyflwr difrifol” medden nhw.
Maen nhw’n annog unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod C023409.