Newyddion S4C

Mwy o ofalwyr yn dioddef o iechyd meddwl gwael oherwydd diffyg cymorth

S4C

Mae mwy a mwy o ofalwyr ledled y DU yn dioddef o iechyd meddwl gwael oherwydd nad ydynt yn cael digon o amser i ffwrdd o’r gwaith, yn ôl ymchwil elusen.

Mae ymchwil gan yr elusen Carers Uk  yn dangos bod y mwyafrif o bobl sy'n gofalu am berthynas sy'n sal, yn anabl neu oedrannus yn  teimlo nad oedden nhw'n cael digon o gefnogaeth na chyfle i gael hoe.

Dywedodd bron i chwech o bob deg (57%) o’r 12,000 wnaeth ymateb i’r arolwg eu bod yn teimlo dan-bwysau ‘yn aml’ neu ‘drwy’r adeg’.

Yn ogystal â hynny, dywedodd mwy na thraean (35%) o ofalwyr fod ganddynt iechyd meddwl ‘gwael’ neu ‘gwael iawn’, sy’n gynnydd o'r ffigwr o 27% y  flwyddyn flaenorol.

Y rheswm mwyaf a oedd gan y gofalwyr dros deimlo eu bod wedi eu gorlethu, oedd nad oedden nhw’n cael y cyfle i gymryd egwyl yn ystod eu horiau gwaith, gyda 65% o’r gofalwyr yn cytuno.

Dywedodd bron i hanner (49%) eu bod angen mwy o egwyl wrth ofalu, a dywedodd 54% y byddai gallu cael amser i ffwrdd yn rheolaidd yn anodd iddynt yn y flwyddyn i ddod.

Mae pob gofalwr i fod i gael asesiad unwaith y flwyddyn o dan Ddeddf Gofal 2014, i weld a ydynt yn gymwys i gael cymorth ychwanegol.

Arhosodd y gyfran a ddywedodd eu bod wedi cael yr asesiad yr un fath ag y bu ers 2022, sef ychydig yn llai na chwarter (23%).

Dywedodd 4 o bob 10 nad oedd eu hawdurdod lleol wedi eu cefnogi ar ôl hynny, gyda rhai’n dweud bod cymorth yn brin oherwydd prinder staff.

'Dan bwysau'

Dywedodd Helen Walker, prif weithredwr Carers Uk, nad oedd digon o wasanaethau ar gael i helpu gofalwyr i gael amser i ffwrdd.

Y rheswm am hyn, meddai, yw oherwydd y galw cynyddol am wasanaethau gofal cymdeithasol ar adeg lle mae diffyg cyllid ar gyfer y sector.

Dywedodd: “Mae gofalwyr di-dâl o dan bwysau aruthrol…mae llawer yn dweud wrthym fod eu byd wedi crebachu, eu bod yn teimlo’n ynysig ac yn unig yn eu rôl o ofalu.”

“Mae angen i ni weld cynllun clir ar gyfer cyllid cynaliadwy, hirdymor, gan sicrhau y gall pob awdurdod lleol gyflawni ei ddyletswyddau i ofalwyr” meddai.

Dywedodd David Fothergill, cadeirydd bwrdd lles cymunedol y Gymdeithas Llywodraeth Leol: “Mae cynghorau’n cydnabod cyfraniad enfawr gofalwyr di-dâl sy’n darparu cymorth hanfodol i filoedd o bobl bob dydd.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth eu bod eisiau sicrhau bod y teuluoedd yn cael yr hyn y maen nhw eu hangen.”

“Rydym yn cynyddu’r trothwy enillion lwfans gofalwr o tua £2,000 y flwyddyn yn ychwanegol - y cynnydd mwyaf ers ei gyflwyno yn 1976” meddai.

“Mae’r Gronfa Gofal Gwell, sy’n werth £9 biliwn, yn cynnwys cyllid y gellir ei ddefnyddio ar gyfer cymorth di-dâl i ofalwyr, megis egwyl fer a gwasanaethau seibiant.”

Ychwangodd eu bod hefyd wedi sicrhau bod hyd at £3.7 biliwn yn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau gofal cymdeithasol yn 2025-26.

Mae hynny’n cynnwys cynnydd o £880 miliwn yn y grant gofal cymdeithasol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.