Galw am sefydlu cronfa £50 miliwn i greu gwasanaethau newyddion lleol
Mae Llywodraeth y DU wedi eu hannog i sefydlu cronfa gwerth £50 miliwn i sicrhau fod pob ardal yn cael gwasanaeth newyddion lleol.
Gyda mwy a mwy o bapurau newydd lleol yn cau, mae mudiad trawsbleidiol Demos yn dweud fod nifer o ardaloedd bellach yn "anialwch" o safbwynt newyddion o safon.
Mae Demos yn awgrymu y gallai'r gronfa gael ei hariannu o arian y drwydded deledu, a chyfraniadau gan y cwmniau cyfryngau cymdeithasol mawr.
Fyddai'r arian ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer newyddiaduraeth o ansawdd isel, neu clickbait, ond yn hytrach er mwyn helpu ffynonellau newyddion lleol i sefydlu modelau busnes cynaladwy hirdymor, meddai'r adroddiad.
Mae'r mudiad yn dweud ei bod hi'n hanfodol fod y Llywodraeth yn sicrhau "amgylchedd gwybodaeth iach a hygyrch" yng ngwyneb ymdrechion cynyddol o dramor i ddylanwadu ar wleidyddiaeth y wlad.
Dywedodd Elizabeth Seger o Demos:"Os ydym ni am gael unrhyw obaith o ail-adeiladu ymddiriedaeth yn ein democratiaeth, mae'n rhaid i ni weithredu ar frys i adeiladau amgylchedd gwybodaeth iach ar gyfer trigolion y DU, lle mae trafodaeth ddemocrataidd yn gallu blodeuo."