Newyddion S4C

'I fi, mae e dal yma': Llwyddiant tîm merched yn deyrnged i hyfforddwr

'I fi, mae e dal yma': Llwyddiant tîm merched yn deyrnged i hyfforddwr

Bymtheg mis wedi colli eu hyfforddwr ifanc mewn amgylchiadau trasig, mae clwb pêl droed merched yn dal i fynd o nerth i nerth.

Ac mae'r chwaraewyr yn dweud fod llwyddiant clwb Heolgerrig Red Lion yn deyrnged i Alex Meek, a laddodd ei hun ym mis Tachwedd 2023

Ar ôl cychwyn gyda dim mwy na 20 o chwaraewyr pedair blynedd yn ôl, mae’r clwb ym Merthyr Tudful bellach yn hafan i dros 170 o ferched. 

Fel mab i gadeirydd y clwb, yn ogystal â hyfforddwr brwd, Alex Meek oedd yn gyfrifol am sefydlu’r tîm. 

“Pêl-droed oedd ei fywyd,” medd ei dad Paul Meek.

Ers ei farwolaeth mae nifer y merched sydd yn chwarae yn y clwb wedi parhau i dyfu – a hynny’n chwarae rhan wrth gadw'r cof amdano'n fyw. 

“Roedd e mor angerddol dros roi cyfleoedd i blant,” meddai ei chwaer Gemma Meek.

A hithau bellach yn swyddog diogelu’r clwb, dywedodd: “Roedd ganddo un tîm, nath e creu un poster… a nawr maen nhw efo tîm ym mron i bob un grŵp oedran.” 

Roedd ei brawd nid yn unig wedi llwydo i gael effaith enfawr ar y clwb, ond wedi sicrhau “platfform” i’r hyfforddwyr eraill oedd yn dod ar ei ôl hefyd, meddai.

Image
Alex Meek
Alex Meek gyda'i chwaer Gemma a'u tad, Paul

'Ffrind'

Mae Rosie wedi bod yn chwarae i glwb Heolgerrig Red Lion ers dyddiau cynnar tîm pêl-droed y merched. 

Pan gychwynnodd hi gyda’r clwb yn ferch chwech oed fe ymunodd hi a thîm Alex, sef tîm y merched dan saith oed. 

Bellach yn 10 oed, dywedodd ei bod yn falch bod y clwb yn cofio am ei chyn hyfforddwr a “ffrind.” “Roedd e’n rili neis,” meddai wrth sôn am Alex. 

Image
Rosie
Rosie

 “Pan roedd fi wedi dechrau roedd tîm bach gyda nhw achos roedd e mostly yn bechgyn yn chwarae,” meddai.

Yn ôl ffigyrau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, roedd nifer y merched a menywod oedd yn chwarae pêl-droed yn ystod tymor 2023/24 yng Nghymru wedi codi 45% ers 2021. 

Image
Florence
Florence

Mae Florence, 10 oed, sydd hefyd wedi bod yn chwarae dros Heolgerrig Red Lion ers y cychwyn, yn meddwl dylai “lot o ferched chwarae pêl-droed” gan ei bod “mor hwyl.” 

Image
Eliza
Eliza

Mae’n gyfle i “chwarae gyda ffrindiau,” ychwanegodd Eliza, wyth oed, a ffordd o “jyst cael hwyl,” yn ôl Elsie sydd yn naw.

Image
Elsie
Elsie

'Dylanwad enfawr'

Fe gafodd Alex Meek ei anrhydeddu gyda Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig am yr hyn a gyflawnodd yn ystod ei fywyd yng Ngwobrau Pêl-droed Llawr Gwlad Cymdeithas Bêl-droed Cymru'r llynedd.

Roedd yn angerddol am greu cyfleoedd nid yn unig i’w glwb ei hun, ond i glybiau lleol eraill, meddai Lee Roberts, sy’n hyfforddi tîm pêl-droed merched dan naw oed. 

“Fy nealltwriaeth i yw bod Alex wedi helpu clybiau eraill y tu allan y sir i sefydlu timau merched eu hunain hefyd. Mae wedi cael dylanwad enfawr.” 

Image
Lee Roberts
Lee Roberts

Ar ôl cael ei hyfforddi gan Alex yn fachgen ifanc mae Connor, 14 oed, bellach yn helpu gyda sesiynau hyfforddi i rai o chwaraewyr ieuengaf y clwb. 

“Oeddwn i eisiau gweld nhw yn datblygu fel gwnaeth Alex gwneud gyda fi," meddai.

“Mae Alex wedi chwarae rhan mawr yn y clwb, I fi mae e dal yma. Pob gem dwi’n chwarae dwi’n ‘neud iddo fe, pob sesiwn hyfforddi dwi’n ‘neud iddo fe. 

Image
Connor
Connor

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru bod “ymroddiad Alex i bêl-droed ar lawr gwlad, yn enwedig wrth hyrwyddo cyfleoedd i ferched ifanc allu chwarae’r gêm” wedi creu “llwybr anhygoel” i chwaraewyr ifanc ddatblygu eu sgiliau “a’u hangerdd.” 

“Bydd yr effaith a gafodd Alex yn cael ei theimlo am sawl genhedlaeth i ddod.” 

'Jyst y dechrau'

Mae teulu Alex bellach yn benderfynol o geisio sicrhau nad yw teuluoedd eraill yn wynebu colled fel yr hyn y maen nhw wedi dioddef. 

Yn ôl gwaith ymchwil y Samariaid, mae dynion yn dair gwaith yn fwy tebygol o hunanladd o gymharu â menywod. 

Gyda chymorth elusen iechyd meddwl Signposted Cymru, a gafodd ei sefydlu gan gyn milwr o Aberdâr, Darren Thomas, mae dros £30,000 wedi ei godi er cof am Alex Meek. 

“Mae codi ymwybyddiaeth yn ein helpu ni i ddelio gyda cholled Alex,” medd ei dad. 

“Y diwrnod ‘nath e ein gadael ni oeddan ni’n teimlo fel mai diwedd y byd oedd hi. Ond dyw e ddim, jyst y dechrau yw hi i rai pobl.” 

Image
Alex a Paul Meek

Mae Paul Meek bellach yn helpu unigolion lleol i dderbyn cymorth gyda’u problemau iechyd meddwl gan ddweud bod rhywbeth cadarnhaol wedi dod “o rywbeth mor drist.”   

Mae codi ymwybyddiaeth o’r fath ar lawr gwlad yn hollbwysig, yn ôl Simon Jones o Mind Cymru. 

“Mae’n rili grêt i weld clybiau pêl-droed fel Heolgerrig Red Lion a grwpiau cymunedol mewn sefyllfa debyg yn gweithio’n galed i godi ymwybyddiaeth.

“Dyw e ddim wastad yn hawdd siarad am ein teimladau… y cam gyntaf ydy siarad â ffrind neu aelod o deulu, ac fe allai hynny arwain at gael cymorth gan arbenigwr.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.