Newyddion S4C

Pryder bydd cymorth bwydo o'r fron yn dod i ben yn ysbytai'r gogledd

Newyddion S4C

Pryder bydd cymorth bwydo o'r fron yn dod i ben yn ysbytai'r gogledd

Mae yna bryder yn y gogledd y bydd gwasanaethau cymorth bwydo o’r fron mewn ysbytai yn dod i ben cyn bo hir. 

Dechreuodd y gwasanaeth yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn 2021 er mwyn helpu mamau i ddatblygu sgiliau i fwydo o'r fron yn hyderus. Cafodd y cynllun peilot ei ymestyn i Ysbyty Glan Clwyd yn 2023.

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bod yn "ystyried" cynlluniau ar gyfer y gwasanaethau hyn o fewn y ddau ysbyty, a’u bod yn edrych ar “gynlluniau hirdymor ar gyfer y gwasanaeth ar draws ei holl safleoedd.”

Ysbyty Maelor Wrecsam oedd y cyntaf yng Nghymru i dreialu cynllun oedd yn rhoi tîm bwydo babanod ar waith o fewn yr uned famolaeth dan arweiniad bydwragedd. Ond erbyn hyn, mae aelodau'r tîm wedi cael gwybod y bydd eu cytundebau yn dod i ben fis Mawrth. 

Mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb i achub y gwasanaeth cymorth bwydo babanod. 

Mae Sioned Davies (40), mam i ddau o blant o Lanferres yn Sir Ddinbych, yn dweud fod y gwasanaeth wedi bod yn "amhrisiadwy" ar ôl i'w hail blentyn gael ei eni 6 wythnos yn gynnar. Roedd gwasanaeth y tîm bwydo babanod yn "hollbwysig" meddai yn ystod wythnosau cyntaf  bywyd ei mab. 

 "O'r munud gath o ei eni pan o'n i'n gorfod expressio fy hun, ac wedyn symud ymlaen i ddefnyddio pwmp ac wedyn i allu bwydo Morgan... fydde gen i ddim syniad o sut i wneud hynny - y pethau ymarferol hynny, sut i neud o'n saff, a be oedd ore i Morgan."

"Nathon nhw wario gymaint o amser efo fi ar y pryd hynny i lywio'r daith.

"A ddim yn unig y ffordd ymarferol, ond hefyd y gefnogaeth emosiynol oedden nhw'n ei roi, a'r gefnogaeth seicolegol i ddeud y gwir.

"Achos mae o yn amser mor fregus i fam yn y dyddia cynnar yna, ac mae o'n gallu bod yn reit unig hefyd ar adegau, ac oedd jyst gwbod bod yna rhywun yna i ganolbwyntio ar hynny hefo fi yn amhrisiadwy.

 "Dwi'n meddwl fasa fo yn trasiedi fasa 'na ddim y gwasanaeth yma, o ran rhoi y dechre gore 'na i fabanod ac i famau yn y dyddie cynnar yne. I'r rhai sydd isio bronfwydo mae o'n hanfodol bwysig."

Image
Sioned Davies a Siwan Humphries
Sioned Davies a Siwan Humphries

Mae arbenigwyr yn cytuno fod bwydo o'r fron yn llesol o ran iechyd y fam a'r plentyn.

Ond dywedodd Siwan Humphreys, Darlithydd Bydwreigiaeth, Prifysgol Bangor fod angen ystyried gwelliannau i ofal mamolaeth yn gyffredinol.

"'Da ni'n gwybod fod merched isio bronfwydo a bod canran helaeth ohonyn nhw yn rhoi'r gora iddi yn reit fuan o gwmpas diwrnod 10, felly da ni'n gwbod pa mor allweddol bwysig ydi o.

"Mae'r gofal mamolaeth yn darparu cefnogaeth arbennig o dda, ond mewn gwirionedd 'da ni angen lot lot mwy na hynny. 'Da ni angen sbio ar y darlun cyfan, rhan bach o'r jig-sô ydi hwnna. 

"'Da ni angen edrych ar amodau gwell o ran tâl mamolaeth a tadolaeth i gefnogi merched i neud y penderfyniadau ynglyn â sut maen nhw isio bwydo. 'Da ni hefyd angen ymgyrch iechyd cyhoeddus grymus yn hyrwyddo bronfwydo o fewn ein diwylliant ni - normaleiddio fo mewn ffordd 'de. 

"A 'da ni hefyd angen ystyried be ydi dylanwad y cwmniau fformiwla, diwydiant fformiwla sydd efo dylanwad arbennig dros ferched. Maen nhw'n gwario miliynnau o bunna ar farchnata eu cynnyrch, ac wrth wneud hynny yn tansieilio buddion bronfwydo."

Dywedodd  Fiona Giraud, pennaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, eu bod nhw'n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth cefnogi teuluoedd o ddyddiau cynnar beichiogrwydd ymlaen drwy flynyddoedd cynnar plentyn, ond eu bod yn ystyried dyfodol y gwasnaeth bwydo o'r fron.

"Mae cynlluniau tymor hir ar gyfer y gwasanaeth yma dan ystyriaeth ymhob un o'n safleoedd ni, fel rhan o'n hymlyniad  ni i gefnogi cychwyn iach i fywydau teuluoedd ledled Gogledd Cymru," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.