Prifysgol De Cymru yn bwriadu cael gwared ar 90 o swyddi
Mae Prifysgol De Cymru wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu cael gwared ar 90 o swyddi yno.
Bydd nifer fach o’u cyrsiau’n cau ar ôl i’r holl fyfyrwyr presennol gwblhau eu hastudiaethau, meddai'r brifysgol sydd â champysau yng Nghaerdydd, Casnewydd a Phontypridd.
Dywedodd y brifysgol na fydd y cyrsiau sy’n cau yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Nhw yw’r ail brifysgol i gyhoeddi eu bod am dorri swyddi ddydd Mercher wedi i Brifysgol Bangor ddweud y bydd gostyngiad o 200 o swyddi yno.
Daw wedi i Brifysgol Caerdydd ddweud eu bod nhw’n bwriadu torri 400 o swyddi a chau cyrsiau ym mis Ionawr.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru eu bod yn wynebu’r un “heriau ariannol” a gweddill y sector Addysg Uwch.
“Mae'r cynigion yn amlinellu gostyngiad o tua 90 o rolau ar draws y sefydliad,” medden nhw.
“Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o'r rolau hyn yn gadael ar ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, ond bydd rhai yn gadael yn raddol dros y blynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr presennol yn gallu cwblhau eu rhaglen astudio.
“Byddwn yn ceisio cyfyngu ar ddiswyddiadau gorfodol drwy ein prosesau arferol a byddwn yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol wedi’u targedu ar gyfer cydweithwyr o fewn grwpiau sy’n cael eu heffeithio.
“Bydd ein ffocws bob amser ar roi’r profiad gorau oll i’n myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru a chael effaith gadarnhaol trwy ein rhagoriaeth ymchwil.
“Byddwn yn sicrhau bod ein myfyrwyr, cydweithwyr a phartneriaid yn cael eu cefnogi’n llawn trwy gydol y broses heriol hon.”