Rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Gwener
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Gwener.
Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 08:00 a 15:00.
Fe allai hyn arwain at amodau teithio heriol ar ffyrdd, rheilffyrdd ac i deithwyr sy'n hedfan o feysydd awyr.
Gallai arwain hefyd at doriadau mewn cyflenwadau trydan i rai am gyfnod.
Mae'r rhybudd yn effeithio ar arfordir y gorllewin a siroedd y de yn bennaf.
Dyma'r siroedd sy'n destun rhybudd melyn:
- Penybont ar Ogwr
- Caerdydd
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Gwynedd
- Ynys Môn
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Bro Morgannwg