Newyddion S4C

Carcharu dyn o Abertawe am ddwyn tacsi

Jeremy Higgins

Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu am 12 mis ar ôl dwyn tacsi cyn achosi difrod sylweddol iddo.

Fe wnaeth Jeremy Higgins, 31 oed ofyn i'r gyrrwr tacsi ei helpu symud ei bethau i mewn i'r cerbyd, cyn neidio i set y gyrrwr a gyrru i ffwrdd.

Cafodd ei ddarganfod gan swyddogion yr heddlu ar Ffordd Y Dywysoges Margared yn Aberafan, Port Talbot.

Roedd Higgins wedi achosi difrod sylweddol i'r tacsi

Pan gafodd ei ddarganfod roedd yn ceisio cael gwared ar y dashcam yn y tacsi a cheisio dwyn y peiriant cerdyn.

Cafodd ei arestio ac fe wnaeth swyddogion Heddlu De Cymru ddarganfod ei fod yn cario dwy gyllell.

Roedd ffôn symudol yn ei feddiant hefyd yn gysylltiedig â chyflenwad cyffuriau anghyfreithlon.

Dywedodd Ditectif Sarjant Grant Phillips: "Fe wnaeth Jeremy Higgins gynllunio'r lladrad hwn gan fod dwy gyllell yn ei feddiant.

"Mae rhaid ei fod yn brofiad ofnadwy o frawychus i'r gyrrwr.

"Nid yn unig oedd Higgins wedi cyflawni lladrad ac achosi difrod i'r tacsi, ond roedd yn cario dau arf peryglus tra'n gwneud. Mae ond yn iawn ei fod yn cael ei ddanfon i'r carchar."

Llun: Heddlu De Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.