Galw am drin cymunedau Cymraeg yn debycach i ardaloedd sy'n gwarchod byd natur
Mae angen trin cymunedau Cymraeg yn debycach i gynefinoedd naturiol sy'n cynnal anifeiliaid a phlanhigion prin wrth ystyried rhoi caniatâd cynllunio meddai adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg sydd wedi ei gadeirio gan Dr Simon Brooks wedi bod yn ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg yng nghymuned Cymru a'r heriau y maent yn eu hwynebu.
Un o argymhellion y Comisiwn yw darparu fframwaith ar gyfer asesu effaith y gall cais cynllunio ei gael mewn ardaloedd sydd â chanran uwch o siaradwyr Cymraeg.
Roedd angen gwneud hynny yn yr un modd ag a wneir yn achos ceisiadau cynllunio mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig meddai’r adroddiad.
“Dylid darparu fframwaith clir ar gyfer asesu effeithiau cais cynllunio ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn yr un modd ag a wneir ar gyfer asesu effeithiau cais cynllunio ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig,” meddai'r awduron.
‘Pwysicaf’
Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, Dr Simon Brooks: "Yn dilyn ymchwil trylwyr, daeth y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i'r casgliad y dylid diwygio polisïau cynllunio gwlad a thref sy'n berthnasol i'r Gymraeg.
"Gwella'r ystyriaeth a roddir i'r Gymraeg yn y system gynllunio yw un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud i sicrhau dyfodol ein hiaith fel iaith genedlaethol a chymunedol."
Roedd yr adroddiad hefyd yn argymell ystyried effaith ceisiadau cynllunio ar gymunedau Cymraeg ar gyfer pob cais cynllunio sy’n debygol o gael effaith arwyddocaol.
Ni ddylid cyfyngu’r fframwaith newydd i geisiadau cynllunio am ddatblygiadau mawr, meddai.
Roedd hefyd angen canllawiau cliriach ar beth oedd ei angen er mwyn gwarchod y Gymraeg y tu allan i gymunedau mewn ardaloedd sydd â chanran uwch o siaradwyr Cymraeg, meddai’r adroddiad.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford y byddwn nhw’n ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad dros y misoedd nesaf.
Dywedodd Marged Tudur o ymgyrch Hal i Fyw Adra eu bod nhw'n "croesawu" yr adroddiad a'i argymhellion.
"Mae Hawl i Fyw Adra yn cefnogi sefydlu Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch," meddai.
"Mae’n rhaid dwysau’r ystyriaeth o’r Gymraeg yn y maes cynllunio mewn ardaloedd ymhle mae hi’n iaith bob dydd, yn iaith y stryd. Os na wneir hynny, byddwn yn wynebu diwedd ein hardaloedd Cymraeg."