Heddlu Dyfed Powys yn darganfod 37 ffatri ganabis masnachol mewn blwyddyn
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi darganfod 37 ffatri ganabis masnachol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan gymryd gwerth dros £12 miliwn o ganabis allan o’r gadwyn gyflenwi.
Cafwyd hyd i ganabis yn cael ei dyfu ar raddfa fawr mewn hen ysgolion, swyddfeydd a siopau gwag yn ardal y llu.
Daeth y darganfyddiadau fel rhan o Ymgyrch Scotney - ymgyrch a lansiwyd mewn ymateb i’r nifer cynyddol o ffatrïoedd canabis ac sy’n cael eu sefydlu gan gangiau troseddu.
Dywedodd y Prif Arolygydd Rich Lewis: “Drwy waith plismona rhagweithiol sy’n digwydd ledled yr heddlu, daeth i’n sylw bod nifer o ffatrïoedd canabis ar raddfa fawr yn cael eu darganfod mewn ardaloedd digyswllt i bob golwg. Rydyn ni’n sôn am filoedd o blanhigion yn cael eu hatafaelu yn ystod pob gwarant, a oedd yn anarferol iawn i ni.
“Sefydlwyd yn eithaf buan bod cysylltiad rhwng y ffatrïoedd hyn wedi’r cyfan. Credwyd bod y bobl yr amheuwyd eu bod yn gyfrifol wedi’u recriwtio gan gangiau troseddu trefnedig tu allan i’r ardal heddlu a oedd yn gobeithio na fyddai neb yn sylwi arnynt yn ein trefi gwledig.
“O ystyried maint y ffatrïoedd a faint o ganabis oedd yn cael ei ddarganfod, gwyddem fod angen gweithredu’n gadarn, felly lansiwyd Ymgyrch Scotney ddechrau 2024.”
Wedi’i arwain gan Adran Ymchwiliadau Troseddol yr Heddlu, mae Ymgyrch Scotney’n gweld swyddogion ditectif, arbenigwyr cudd-wybodaeth a swyddogion plismona rhagweithiol yn cydweithio i ganfod ble mae’r ffatrïoedd yn cael eu sefydlu, er mwyn aflonyddu arnynt cyn y gellir amaethu’r canabis.
Miloedd o blanhigion
Hyd yn hyn, mae 37 o warantau wedi’u gweithredu yn y pedwar rhanbarth, gyda degau o filoedd o blanhigion wedi eu darganfod.
Esboniodd y Ditectif Brif Arolygydd Lewis nad yw’r ffatrïoedd hyn yn cael eu sefydlu mewn llefydd sydd wedi eu cuddio o’r golwg, lle gall troseddwyr fynd a dod heb i neb eu gweld, ond mewn ardaloedd cyhoeddus, canol trefi, a hyd yn oed ar yr un stryd â gorsaf heddlu.
“Yr hyn sy’n rhyfeddol, ynghyd â faint o ganabis rydyn ni wedi’i ddarganfod yn cael ei dyfu, yw ymagwedd haerllug y rhai sy’n gyfrifol,” meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Lewis.
“Rydyn ni wedi gweld hen ysgolion, siopau gwag, a hen swyddfa papur newydd yn cael eu defnyddio fel ffatrïoedd canabis, ac roedd nifer o’r rhain yng nghanol trefi lle y byddai’n anodd iawn i bobl beidio â sylwi arnynt. Gwnaeth hyn inni gredu bod y gangiau’n defnyddio tactegau eofn megis esgus bod yn adeiladwyr neu’n landlordiaid er mwyn mynd i mewn ac allan o’r adeiladau hynny heb godi amheuon.
“Eu tacteg oedd cuddio yng ngolwg pawb – pwy fyddai’n amau y gallai rhywun sy’n gwisgo siaced lachar ac yn cario bocsys mawr i mewn i adeilad segur yng ngolau dydd fod yn sefydlu ffatri ganabis?
“Mae’r ffaith bod 400 o blanhigion wedi’u canfod 4 drws i lawr wrth yr orsaf heddlu yng Nghastellnewydd Emlyn yn dangos eu penderfynoldeb i gyflawni eu hymdrechion troseddol – ond mae ein penderfynoldeb i’w hatal yn fwy.”
Dros gyfnod o flwyddyn, mae 35 o bobl wedi eu harestio a’u cyhuddo dan Ymgyrch Scotney: mae 29 o’r rheiny wedi eu carcharu, mae pedwar yn disgwyl eu dedfrydu, mae dau eto i gofnodi ple, ac mae dau o bobl ychwanegol wedi eu hallgludo yn dilyn eu harestio.