Prifysgol Bangor i gyhoeddi cynllun toriadau ddydd Mercher
Fe fydd penaethiaid Prifysgol Bangor yn cyhoeddi cynlluniau i wneud toriadau yn ddiweddarach dydd Mercher, mewn ymgais i fynd i'r afael â heriau ariannol.
Mae Newyddion S4C ar ddeall bod gweithwyr y brifysgol wedi eu gwahodd i gyfarfod holl staff yng nghanolfan Pontio'r ddinas am 14:00.
Mae'r brifysgol yn cyflogi 930 o staff academaidd ar hyn o bryd, gyda 11,000 o fyfyrwyr yn astudio yno.
Yn y cyfarfod fe fydd yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke a'r Dirprwy Is-ganghellor Andrew Edwards yn diweddaru staff am sefyllfa'r sefydliad.
Fe fydd Prif Swyddog Cyllid y brifysgol, Martyn Riddleston yn rhoi cyflwyniad am sefyllfa ariannol y brifysgol i staff, ac fe fydd sesiwn holi ag ateb ar y diwedd.
Fe fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw i gampws y brifysgol yn Wrecsam hefyd.
Mae Newyddion S4C wedi siarad gydag un aelod o staff oedd am aros yn ddienw sydd ar ddeall y gallai'r toriadau gynnwys nifer sylweddol o ddiswyddiadau.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan Brifysgol De Cymru am ddiswyddiadau yr wythnos hon hefyd.
Mae'r cyhoeddiad yn y Coleg ar y bryn ddydd Mercher yn dod ddiwrnod yn unig ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd yn rhoi £18.5 miliwn i brifysgolion Cymru.
Bwriad y cyllid yw helpu prifysgolion "i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch", meddai Llywodraeth Cymru.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Brifysgol Caerdydd gyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad.
Mae hynny wedi arwain at sawl protest yn y brifddinas.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi croesawu'r cyhoeddiad ond dywedodd ei bod yn "rhy gynnar i ddweud sut y bydd y cyllid hwn yn effeithio" ar y sefydliad.
Llun: Prifysgol Bangor