Ditectifs yn rhannu eu profiad o ddod o hyd i ferch fach a gafodd ei chipio
Mae dau dditectif wedi rhannu eu profiad am y tro cyntaf o ddod o hyd i fabi coll, a ddiflannodd o ysbyty yn Sir Ddinbych yn yr 1990au.
Fe gafodd Lydia Owens ei chipio o ward famolaeth Ysbyty Glan Clwyd ym mis Chwefror 1995.
Hi oedd trydydd plentyn Christine a Michael Owens o Landudno.
Mewn cyfweliad gyda chyfres Troseddau Cymru Gyda Sian Lloyd ar S4C, mae Huw Vevar ac Alan Dylan Owen yn adrodd eu profiad o ddod o hyd iddi.
Yn ôl y pâr, llwyddwyd i ddod o hyd i Lydia wedi tip-off ryw 23 awr wedi iddi ddiflannu, ac fe wnaeth hynny eu harwain i dŷ yn Y Rhyl.
Fe wnaeth y ddau ddarganfod y ferch fach newydd anedig yn fyw ac yn iach ac yn ymddangos yn ddi-anaf.
Bu farw un o'r plismyn, Huw Vevar, yn ddiweddar, cyn i'r rhaglen gael ei darlledu.
Yn ei gyfweliad ar y rhaglen, dywedodd: "Cyn gynted ag y daeth y ddynes at y drws a dweud wrthym nad oedd yn gyfleus, roedden ni'n gwybod mai hon oedd hi, roedd gennym gut feeling, roedden ni'n gwybod, hon ’di hi.
"Mi driodd hi slamio’r drws ond fedres i roi nhroed i fewn trwy’r drws trwy reddf a blynyddoedd o brofiad, a rhedon ni ar ei hôl hi i lawr y coridor.
"Fe wnaethon ni ddod o hyd i'r babi yn cysgu’n sownd yn y cot."
Fe wnaeth achos Lydia Owens ddal sylw'r genedl, gan daflu goleuni ar brotocolau diogelwch ysbytai.
Ar ôl pledio'n euog ym Mehefin 1995, cafodd Susan Brooke, dynes 39 oed a oedd yn famgu o'r Rhyl, ei charcharu am ddwy flynedd a hanner am gipio Lydia Owens.
Trwy lygaid y ditectifs, arbenigwyr, a'r rhai a fu'n byw drwy'r digwyddiadau, mae'r rhaglen ddogfen yn datgelu nid yn unig fanylion trosedd frawychus ond hefyd y goblygiadau ehangach ar gyfer diogelwch ysbytai.
Bydd Troseddau Cymru gyda Siân Lloyd i'w gweld nos Fercher 19 Chwefror am 21.00 ar S4C ac ar S4C Clic ac iPlayer.