
Llywodraeth Cymru'n rhoi £19 miliwn i brifysgolion
Llywodraeth Cymru'n rhoi £19 miliwn i brifysgolion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi £18.5 miliwn i brifysgolion Cymru.
Bwriad y cyllid yw helpu prifysgolion "i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r sector addysg uwch", meddai Llywodraeth Cymru.
Daw'r cyhoeddiad wedi i Brifysgol Caerdydd gyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad.
Mae hynny wedi arwain at sawl protest yn y briddinas.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi croesawu'r cyhoeddiad ond dywedodd ei bod yn "rhy gynnar i ddweud sut y bydd y cyllid hwn yn effeithio" ar y sefydliad.
Bydd £500,000 ychwanegol hefyd yn cael ei fuddsoddi yn rhaglen Cymru Fyd-eang, i barhau i gefnogi recriwtio a hyrwyddo rhyngwladol.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid yn helpu i dalu costau cyfalaf sy'n gysylltiedig â chynnal a chadw a phrosiectau digidol i leihau costau gweithredu.
Ychwanegodd y bydd hefyd yn sicrhau bod cyfleusterau'n parhau i fod yn addas ar gyfer darparu profiad o'r radd flaenaf i fyfyrwyr a chyflawni ymchwil arloesol.
'Diogelu'r dyfodol'
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, y bydd y cyllid yn "cyfrannu at gynaliadwyedd" prifysgolion.
"Rwy’ wedi gwahodd yr holl is-gangellorion i gyfarfod bwrdd crwn er mwyn cynnal trafodaethau pellach am yr heriau y mae'r sector yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a sut y gallwn gydweithio i ddiogelu dyfodol addysg uwch yng Nghymru," meddai.
Yn ôl Llefarydd Addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell AS, nid yw'r cyllid yn ddigonol.
"Dyw hyn rhwng wyth prifysgol yng Nghymru ddim yn ddigon," meddai wrth siarad ar raglen Newyddion S4C nos Fawrth.
"Ni wedi clywed yn barod am y toriadau staff posibl ym Mhrifysgol Caerdydd, mae 'na gyhoeddiadau heddi ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae’n debygol fydd ‘na gyhoeddiad arall fory mewn prifysgol arall o ran colli staff."
Ychwanegodd: "Felly mae hyn yn dangos i mi fod 'na ddirywiad yn digwydd yn ein sector ni, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu fyny i gefnogi’r sector."

Dywedodd llywydd undeb UCU Caerdydd, Dr Joey Whitfield, y bydd y cyllid yn ei "gwneud hi'n anoddach" i Brifysgol Caerdydd ddiswyddo'i staff.
"Mae’r cyhoeddiad heddiw am hwb ariannol o £19 miliwn ar gyfer y sector yng Nghymru yn ei gwneud hi’n anoddach fyth i Fwrdd Gweithredol Prifysgol Caerdydd fwrw ymlaen â’i gynlluniau i gael gwared â 400 o swyddi a chau adrannau a chyrsiau," meddai.
Ychwanegodd Dr Whitfield nad oes gan y brifysgol "yswiriant gwleidyddol" bellach i barhau gyda'i "thoriadau creulon a diangen".
"Ynghyd â’i £188 miliwn mewn arian parod, mae'r arian sydd wedi ei addo gan Lywodraeth Cymru yn golygu nad oes gan Brifysgol Caerdydd unrhyw esgus i ddiswyddo 400 yn rhagor o’n haelodau," meddai.
Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
"Mae sefyllfa ariannol ansicr llawer o brifysgolion yn y sector wedi'i dogfennu'n dda," meddai llefarydd ar ran y brifysgol.
"Mae'n rhy gynnar i ddweud sut y bydd y cyllid hwn yn effeithio ar Brifysgol Caerdydd, ond bydd yn cael ei ystyried yn ein cyd-destun ariannol ehangach.
"Rydym bob amser yn croesawu cyllid ychwanegol i gefnogi ein hystad a'n seilwaith digidol."